Dwyreinioldeb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 20:
Yn ei waith ''Orientalism'', mae Edward Said yn ail-ddiffinio'r term gan gyfuno ysgolheictod a chelfyddydau'r Gorllewin sydd yn ymwneud â'r Dwyrain a'u trin mewn dull beirniadol. Gan efelychu'r [[ôl-drefedigaethrwydd|ôl-drefedigaethwyr]] [[Aimé Césaire]] a [[Frantz Fanon]], dadansoddai Said y disgwrs trefedigaethol a oedd yn parhau i ddiffinio'r berthynas rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain hyd yn oed wedi cwymp yr ymerodraethau Ewropeaidd. Amlinella’r broses o greu yr "Orient", ffug-bortread homogenaidd a dychmygol o'r Dwyrain, gan ysgolheigion, llenorion, ac arlunwyr Ewropeaid fel gwrthbwynt i’w Gorllewin gwareiddiedig, uwchraddol hwy.<ref>Greg Muse, "[https://wici.porth.ac.uk/index.php/%C3%94l-drefedigaethedd Ôl-drefedigaethedd]" yn yr Esboniadur ([[Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol]]). Adalwyd ar 4 Hydref 2018.</ref> Yn ôl Said, disgwrs [[hiliaeth|hiliol]] ydy Dwyreinioldeb gan iddo ddi-ystyru profiadau real y Dwyrain a gwadu galluedd ac hanes yr Asiaid a'r Affricanwyr drwy lunio ystrydebau er budd diddordebau gweidyddol, economaidd, a milwrol y Gorllewin.<ref>Jonathan Spencer, "Orientalism" yn ''Encyclopedia of Social and Cultural Anthropology'' golygwyd gan Alan Barnard a Jonathan Spencer (Llundain: Routledge, 2002), tt. 613–14.</ref>
 
Yn ôl dealltwriaeth Said ac ôl-drefedigaethwyr eraill, bu'r wybodaeth o'r Dwyrain a luniwyd yn y Gorllewin yn cynorthwyo'r Ewropeaid wrth iddynt ddarostwng ac ecsbloetio'r bobloedd a'r tiriogaethau a orchfygwyd, ac hefyd yn cryfhau gafael yr Ewropeaid ar eu honiad o drefn wyddonol wrthrychol, ddiduedd. Dadleuai bod astudiaethau am bobloedd a diwylliannau tramor, gan gynnwys meysydd [[ieithyddiaeth]] ac ieitheg, llenyddiaeth, ac hanes, yn darparu moddion i'r Gorllewin reoli'r bobloedd hynny ac i dra-arglwyddiaethu yn fyd-eang. Cyhuddwyd amgueddfeydd, prifysgolion, a sefydliadau ysgolheigaidd eraill o gynnal a chadw'r Dwyreinioldeb hyn.<ref>Benedikt Stuchtey, "Orientalism" yn ''Berkshire Encyclopedia of World History'', cyfrol 4, golygwyd gan William H. McNeill et al. (Great Barrington, Massachusetts: Berkshire Publishing Group, 2005). t. 1393.</ref>
== Cyfeiriadau ==
 
== Ffynonellau ==
=== Cyfeiriadau ===
{{cyfeiriadau}}
 
=== Llyfryddiaeth ===
* Jonathan Spencer, "Orientalism" yn ''Encyclopedia of Social and Cultural Anthropology'' golygwyd gan Alan Barnard a Jonathan Spencer (Llundain: Routledge, 2002).
* Benedikt Stuchtey, "Orientalism" yn ''Berkshire Encyclopedia of World History'', cyfrol 4, golygwyd gan William H. McNeill et al. (Great Barrington, Massachusetts: Berkshire Publishing Group, 2005). tt. 1392–96.
 
== Darllen pellach ==
* F. Dallmayr, ''Beyond Orientalism: Essays in Cross-Cultural Encounter'' (Albany, Efrog Newydd: State University of New York Press, 1996).
* R. King, ''Orientalism and Religion'' (Llundain: Routledge, 1999).
* A. L. Macfie, ''Orientalism: A Reader'' (Caeredin: Edinburgh University Press, 2000).
* A. L. Macfie, ''Orientalism'' (Llundain: Longman, 2002).
* J. M. MacKenzie, ''Orientalism: History, Theory and the Arts'' (Manceinion: Manchester University Press, 1995).
* C. Peltre, ''Orientalism in Art'' (Llundain: Abbeville Press, 1998).
* B. S. Turner, ''Orientalism, Postmodernism and Globalism'' (Llundain: Routledge, 1994).
 
[[Categori:Dwyreinioldeb| ]]