Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tsieina"

Ychwanegwyd 7,416 beit ,  1 mis yn ôl
Y rhan agoriadol + geirdarddiad
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
(Y rhan agoriadol + geirdarddiad)
{{Lle | math_o_le = Gwlad | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} | enw_brodorol = '''''Zhōnghuá Rénmín Gònghéguó'''''</br>'''中华人民共和国'''</br> | suppressfields= image1 | map lleoliad = [[File:CHN orthographic.svg|270px]] | banergwlad = [[File:Flag of China.svg|170px]] }}
:''Pwnc yr erthygl hon yw y gwareiddiad Tsieineeg a'r ardal daearyddolddaearyddol yn nwyrain Asia. Os am ystyron eraill y gair gweler [[Tsieina (gwahaniaethu)]].''
 
[[Delwedd:ChinaGeography.png|bawd|250px]]
 
Mae '''Tsieina''' (hefyd '''Tseina''' neu '''China''') ([[Tsieineeg traddodiadol]]: 中國, [[Tsieineeg wedi symleiddio]]: 中国, {{Sain|zh-zhongguo.ogg|Zhōngguó}}) yn endid gwleidyddol a daearyddol yn nwyrain [[Asia]].
 
Mae'n wlad yn [[Dwyrain Asia|Nwyrain Asia]] ac yn [[Gweriniaeth|weriniaeth sosialaidd]] un blaid [[gwladwriaeth unedol|unedol]] dan arweiniad [[Plaid Gomiwnyddol Tsieina]] (CPC). Hi yw [[Rhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaeth|gwlad fwyaf poblog]] y byd, gyda phoblogaeth o fwy na 1.4 biliwn. Mae Tsieina'n dilyn un amser safonol sef UTC + 08: 00 er ei fod, mewn gwirionedd, yn rhychwantu pum [[cylchfa amser]] daearyddol ac yn ffinio â 14 gwlad, yr ail fwyaf o unrhyw wlad yn y byd, ar ôl [[Rwsia]]. MAe ei harwynebedd oddeutu 9.6&nbsp;miliwn cilomedr sgwâr (3.7&nbsp;miliwn mill <sup>2</sup>), hi yw trydedd neu bedwaredd wlad fwyaf y byd. Rhennir y wlad yn swyddogol yn 23 talt th(Saesneg'': provin''ce, Mandarin: ''Shěng-jí xíngzhèngq)'', {{Efn|The disputed 23rd province of [[Taiwan]] is claimed by People's Republic of China but it does not administer it. See {{section link||Administrative divisions}}}} pum rhanbarth ymreolaethol, a phedair bwrdeirefyn [[Beijing]] (y [[Prifddinas|brifddinas]] ), [[Tianjin]], [[Shanghai]] (y ddinas fwya), a [[Chongqing]], yn ogystal â dau ranbarth gweinyddol arbennig : [[Hong Cong|Hong Kong]] a [[Macau|Macu]] .
[[Delwedd:ChinaGeography.png|bawd|chwith|250px]]
 
Daeth China i'r amlwg fel un o wareiddiadau cynta'r byd, ym masn ffrwythlon yr [[Huang He|Afon Felen (y]] [[Huang He]]) ynng Ngwastadedd Gogledd Tsieina. Roedd Tsieina yn un o bwerau economaidd mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y rhan fwyaf o'r ddwy fileniwm o [[1g]] tan y [[19g]]. Am filoedd o flynyddoedd, roedd system wleidyddol Tsieina wedi'i seilio ar frenhiniaeth etifeddol absoliwt, neu linach (''dynasty''), gan ddechrau gyda [[Brenhinllin Xia|llinach Xia]] yn 21g CC. Ers hynny, mae Tsieina wedi ehangu, chwalu ac ail-uno sawl gwaith. Yn y 3g CC, adunodd y Qin y rhan fwyaf o Tsieina a sefydlu'r [[Brenhinllin y Qin|ymerodraeth Tsieineaidd gyntaf]] sef [[Brenhinllin y Qin|Brenhinllin y Qin.]] Gwelodd [[Brenhinllin Han]] a'i holynodd (206 ÔC-220 ÔC) beth o'r dechnoleg fwyaf datblygedig ar yr adeg honno, gan gynnwys cynhyrchu papur a'r [[cwmpawd]], ynghyd â gwelliannau [[amaethyddol]] a [[meddygol]], [[powdwr gwn]] ac argraffu yn ystod [[Brenhinllin Tang]] (618-907) a Brenhiniaeth y Song Gogleddol (960–1127).
 
Ymledodd diwylliant Tang yn eang drwy [[Asia]], wrth i'r [[Ffordd y Sidan]] newydd ddod â masnachwyr gyn belled â [[Mesopotamia]] a [[Corn Affrica|Chorn Affrica]].
 
Dioddefodd [[Brenhinllin Qing]] yn drwm dan ormes imperialaeth tramor, negis Lloegr. Dyma linach olaf Tsieina, a sail tiriogaethol ar gyfer y Tsieina fodern. Cwympodd brenhiniaeth Tsieineaidd ym 1912 gyda [[Chwyldro 1911]], pan ddisodlodd [[Gweriniaeth Tsieina|Gweriniaeth Tsieina (ROC)]] [[Brenhinllin Qing]]. Ymosododd [[Ymerodraeth Japan]] ar Tsieina yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]].
 
 
Yn 1948 arweiniodd [[Rhyfel Cartref Tseina]] at rannu tiriogaethau pan sefydlodd [[Plaid Gomiwnyddol Tsieina|Plaid Gomiwnyddol Tseiniaidd]] (CCP), dan arweiniad [[Mao Zedong]], Weriniaeth Pobl Tsieina ar dir mawr Tsieina tra enciliodd Kuomintang dan arweiniad llywodraeth ROC i ynys Taiwan.{{Efn|The KMT solely governed the island until its transition to democracy in 1996.|name=|group=}} Yn 2021 roedd y PRC a'r ROC ill dau'n honni mai nhw yw unig lywodraeth gyfreithlon Tsieina, gan arwain at anghydfod parhaus hyd yn oed ar ôl i'r [[Y Cenhedloedd Unedig|Cenhedloedd Unedig]] gydnabod y PRC fel y llywodraeth sqyddogol.
 
Mae'r wlad yn aelod parhaol o [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig|Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]] ac yn aelod o sawl sefydliad fel Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd, Cronfa'r Ffordd y Sidan, y Banc Datblygu Newydd, Sefydliad Cydweithredol Shanghai, a'r Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr Rhanbarthol, ac mae hefyd yn aelod o [[BRICS]], y G8 + 5, y [[G20]], [[APEC]], ac Uwchgynhadledd Dwyrain Asia.
 
Mae ymhlith yr isaf o holl wledydd y byd mewn mesuriadau rhyngwladol o ran: rhyddid sifil, tryloywder ei llywodraeth, rhyddid y wasg, rhyddid crefydd a lleiafrifoedd ethnig. Mae awdurdodau Tsieineaidd wedi cael eu beirniadu gan wleidyddol ac actifyddion [[hawliau dynol]] am gam-drin hawliau dynol ar raddfa fawr, gan gynnwys [[gormes gwleidyddol]], [[Sensoriaeth yn Tsieina|sensoriaeth]] dorfol, monitro torfol o'u dinasyddion ac atal protestiadau mewn modd treisgar.
 
Ar ôl diwygiadau economaidd ym 1978, a'i mynediad i [[Sefydliad Masnach y Byd]] yn 2001, daeth economi Tsieina yn wlad ail-fwyaf trwy [[Cynnyrch Mewnwladol Crynswth|Gynnyrch Mewnwladol Crynswth]] enwol yn 2010 a thyfodd i'r mwyaf yn y byd o ran PPP yn 2014. Tsieina yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, y genedl ail gyfoethocaf yn y byd, a [[Gweithgynhyrchu|gwneuthurwr]] ac allforiwr mwya'r byd. Mae gan y genedl fyddin sefydlog gryfaf yn y byd - [[Byddin Rhyddid y Bobl]] - y gyllideb amddiffyn ail-fwyaf, ac mae'n [[Rhestr o wledydd sydd ag arfau niwclear|wladwriaeth arfau niwclear]] gydnabyddedig. Caiff ei chyfri'n uwch-bŵer posib oherwydd ei heconomi fawr a'i grym milwrol.
 
== Geirdarddiad ==
Etifeddodd y Gymraeg y gair 'Tsieina' o'r Saesneg (ac ieithoedd Ewropeaidd eraill) "China" ers yr [[16g]]; fodd bynnag, nid y gair hwn a ddefnyddiwyd gan y Tsieineaid eu hunain yn ystod y cyfnod hwn. Mae ei darddiad wedi cael ei olrhain trwy'r [[Portiwgaleg|Bortiwgaleg]], [[Maleisia|Maleieg]], a [[Perseg|Pherseg]] yn ôl i'r gair [[Sansgrit]] ''Chīna'', a ddefnyddir yn yr [[Hanes India|India hynafol]].<ref name="OED">{{Cite web|url=https://www.oed.com/view/Entry/31735?|title=China|website=Oxford English Dictionary}}</ref>
 
Defnyddiwyd ''Cīna'' yn gyntaf yn yr ysgrythur Hindŵaidd gynnar, gan gynnwys y ''[[Mahabharata|Mahābhārata]]'' ([[5g CC]]) a ''[[Manusmṛti|Deddfau Manu]]'' ([[2g CC]]).<ref name="wade">Wade, Geoff. </ref> Yn 1655, awgrymodd Martino Martini fod y gair 'China' yn deillio yn y pen draw o enw [[Brenhinllin y Qin]] (221–206 BCE).<ref name="Martini">Martino, Martin, ''Novus Atlas Sinensis'', Vienna 1655, Preface, p. 2.</ref><ref name="wade" /> Er bod defnydd mewn ffynonellau Indiaidd yn rhagflaenu'r frenhiniaeth hon, rhoddir y tarddiad hwn mewn amryw ffynonellau o hyd. <ref>{{Cite book|last=Bodde, Derk|editor-last=Denis Twitchett|editor-last2=Michael Loewe|url=https://books.google.com/books?id=A2HKxK5N2sAC&pg=PA20|title=The Cambridge History of China: Volume 1, The Ch'in and Han Empires, 221 BC – AD 220|page=20|isbn=978-0-521-24327-8|year=1978}}</ref> Mae tarddiad y gair Sansgrit yn destun dadl, yn ôl ''Geiriadur Saesneg Rhydychen''.<ref name="OED" /> Ceir awgrymiadau niferus gan gynnwys yr enwau ar gyfer Yelang a thalaith Jing neu Chu.<ref name="wade" /><ref>{{Cite book|last=Yule, Henry|url=https://books.google.com/books?id=SAqgAb41ifIC&pg=PA3|title=Cathay and the Way Thither|pages=3–7|isbn=978-81-206-1966-1|year=1866}}</ref>
 
== Hanes ==
{{Asia}}
 
{{eginynRheoli Tsieinaawdurdod}}
 
[[Categori:Tsieina| ]]
[[Categori:Gwladwriaethau a thiriogaethau a sefydlwyd ym 1949]]
 
[[Categori:Gweriniaethau]]
[[et:Hiina#Hiina Rahvavabariik]]
[[Categori:Gweriniaeth Pobl Tsieina]]
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig]]
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r G20]]
[[Categori:Gwledydd Asia]]
[[Categori:Gwladwriaethau comiwnyddol]]
[[Categori:Erthyglau sy'n cynnwys testun Tsieineeg]]
[[Categori:Erthyglau sy'n cynnwys testun Portiwgaleg]]