Naftali Bennett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol Golygiad symudol uwch
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Gwleidydd]] a dyn busnes [[Israeliaid|Israelaidd]] yw '''Natfali Bennett''' ([[Hebraeg]]: נַפְתָּלִי בֶּנֶט, {{IPA-he|naftaˈli ˈbenet|IPA}}; ganed [[25 Mawrth]] [[1972]]) ac yn [[Prif Weinidog Israel|Brif Weinidog Israel]] ers 2021.
 
Ganed ef yn [[Haifa]], yng ngogledd [[Israel]], i bâr o [[Americanwyr Iddewig]] a ymfudodd o [[San Francisco]] i'r wlad ym 1967. Bwriodd ei wasanaeth milwrol gyda chyrchluoedd Sayeret Matkal a Maglan yn [[Llu Amddiffyn Israel]] yn y 1990au. Astudiodd y gyfraith ym [[Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem|Mhrifysgol Hebraeg Jeriwsalem]] tra'n gweithio yn y sector [[uwch-dechnoleg]].<ref name=Reuters>{{eicon en}} Maayan Lubell, "[https://archive.is/gbb9F Naftali Bennett: The right-wing millionaire who may end Netanyahu era]", [[Reuters]] (2 Mehefin 2021). Archifwyd o'r [https://www.reuters.com/world/middle-east/naftali-bennett-right-wing-millionaire-who-may-end-netanyahu-era-2021-05-30/ dudalen we wreiddiol] ar 23 Gorffennaf 2021.</ref> Wedi iddo dderbyn ei radd, symudodd Bennett i [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] ac yno cyd-sefydlai cwmni meddalwedd gwrth-dwyll o'r enw Cyota ym 1999. Gwerthodd y cwmni am $145&nbsp;miliwn yn 2005, a dychwelodd i Israel.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Naftali-Bennett |teitl=Naftali Bennett |dyddiadcyrchiad=23 Gorffennaf 2021 }}</ref>
 
Cychwynnodd ar ei yrfa wleidyddol yn 2006, pryd cafodd ei benodi'n bennaeth staff gan [[Benjamin Netanyahu]], arweinydd yr wrthblaid [[Likud]] yn [[y Knesset]] (a fyddai'n Brif Weinidog Israel o 2009 i 2021). Cafodd seibiant o fyd gwleidyddiaeth yn 2009, gan arwain cwmni arall. Yn 2010 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyffredinol ar Gyngor Yesha, sydd yn cynrychioli mân-wladfeydd Israelaidd yn [[y Lan Orllewinol]], ac arweiniodd ymgyrch yn erbyn y gwaharddiad ar gymunedau newydd. Bu'n bennaeth ar Gyngor Yesha nes 2012.
Llinell 13:
 
== Safbwyntiau Seionaidd ==
Yn ystod ymgyrch etholiadol 2013, denodd Bennett sylw am ei gynllun arfaethedig, "y Fenter Sefydlogrwydd", er mwyn datrys y [[gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd]]. Byddai'r cynllun yn gwrthod datrysiad dwy-wladwriaeth gan [[cyfeddiannu|gyfeddiannu]] ardaloedd'r yr Lan Orllewinol a oedd dan reolaeth dros dro Israel ar y pryd, ac felly yn cadw'r mwyafrif o Balesteiniaid y Lan Orllewinol o fewn [[clofan]]nau trefol.<ref name=Britannica/> Mae Bennett yn hoff o gyfeirio at y Lan Orllewinol gan yr hen enw Beiblaidd, [[Jwdea]] a [[Samaria]], ac yn mynnu hawl Israel i'r holl Lan Orllewinol, Dwyrain Jeriwsalem, ac [[Ucheldiroedd Golan]]. Mewn cyfweliad yn Chwefror 2021, dywedodd Bennett na fyddai'n trosglwyddo'r "un centimedr o diriogaeth Tir Israel" i unrhyw wladwriaeth Balesteinaidd. Fodd bynnag, nid yw'n mynnu hawl Israel i diriogaeth [[Llain Gaza]].<ref name=BBC-rise>{{eicon en}} "[https://archive.is/BWW8s Naftali Bennett: The rise of Israel's new PM]", [[BBC]] (13 Mehefin 2021). Archifwyd o'r [https://www.bbc.co.uk/news/world-middle-east-56969598 dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.is ar 23 Gorffennaf 2021.</ref>
 
Mae Bennett wedi dadlau o blaid ymateb llym i wrthryfelwyr Palesteinaidd, gan gynnwys y gosb eithaf i derfysgwyr, ac wedi cyhuddo [[Hamas]] o fod yn gyfrifol am farwolaethau sifiliaid o ganlyniad i gyrchoedd awyr Israel ar Lain Gaza yn 2018 ac yn 2021.<ref name=BBC-rise/>