Edward Jones (meddyg Dolgellau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
 
== Gwasanaeth cyhoeddus ==
[[Delwedd:Caerffynnon, meddygfa a chartref Dr Edward Jones 1834-1900.jpg|chwith|bawd|Caerffynnon meddygfa a chartref Dr Jones]]
Ers yn ifanc, cyn iddo fynd i'r Brifysgol yng Nglasgow roedd Jones yn [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydwr]] brwd.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4487924|title=Dr Edward Jones - Y Genedl Gymreig|date=1889-04-03|accessdate=2020-10-15|publisher=Thomas Jones}}</ref> Bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas Ryddfrydol Meirion gan wasanaethu, bron yn ddi-dor o'i sefydlu hyd ei farw ef fel ei lywydd. Bu'n weithgar wrth sicrhau cipio [[Meirionnydd (etholaeth seneddol)|Meirion]] o ddwylo'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadwyr]] gan [[David Williams (Meirionnydd)|David Williams]], [[Castell Deudraeth]] ym 1868 <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3144753|title=DOLGELLAU - Y Dydd|date=1868-11-13|accessdate=2020-10-15|publisher=William Hughes}}</ref> a'i chadw yn sedd Ryddfrydol wedi hynny. Roedd yn gweithredu fel cyfieithydd dros yr ASau di Gymraeg [[Samuel Holland]] a [[Henry Robertson]] ac yn aml yn cael mwy o hwyl wrth draddodi cyfieithiadau o'u areithiau nag oeddynt hwy yn cael yn eu traddodi yn y gwreiddiol. Bu bygwth rhwyg yn yr achos Rhyddfrydol yn y sir ym 1885 pan benderfynodd rhai aelodau i godi [[Morgan Lloyd]], Cymro Cymraeg o gefndir gwerinol, i herio'r diwydiannwr cefnog di-gymraeg o Sgotyn Henry Robertson. Roedd Edward Jones yn gyfrwng pwysig wrth geisio gwella'r rhwyg. Gwasanaethodd fel un o Gynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor Gweithredol y Ffederasiwn Rhyddfrydol Prydeinig. Pan fu farw [[Thomas Edward Ellis|Tom Ellis]] a phan roddodd [[Owen Morgan Edwards|Syr O. M. Edwards]] <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3119781|title=OLYNYDD MR O M EDWARDS - Tarian Y Gweithiwr|date=1900-01-25|accessdate=2020-10-15|publisher=Mills, Lynch, & Davies}}</ref> hysbysu nad oedd am ail sefyll ar gyfer [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ'r Cyffredin]] bu bwysau lawer ar Jones i sefyll yn eu lle ond fe wrthododd y cynigion.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4446302|title=MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y Dr EDWARD JONES DOLGELLAU - Y Genedl Gymreig|date=1900-02-13|accessdate=2020-10-15|publisher=Thomas Jones}}</ref>
 
Llinell 26 ⟶ 27:
 
Ar ddechrau mis Chwefror 1900 cafodd Dr Jones pwl o'r [[Y ffliw|ffliw]] a drodd yn [[niwmonia]] ac a arweiniodd at ei farwolaeth yn ei gartref, Caerffynnon, Dolgellau yn 66 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus newydd y dref; mynwent y bu ef yn gyfrifol am ei sefydlu.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4503661|title=Gladdedigaeth Dr Edward Jones Dolgellau - Y Goleuad|date=1900-02-14|accessdate=2020-10-15|publisher=John Davies}}</ref>
[[Delwedd:Bedd Dr Edward Jones, Dolgellau 01.jpg|bawd|Bedd Dr Jones]]
 
== Cyfeiriadau ==