Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Diwydiant llechi Cymru"

Ychwanegwyd 259 beit ,  1 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎Lleihad yn y cynnyrch: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: cymeryd → cymryd using AWB)
 
[[Delwedd:Jth00253.jpg|300px|bawd|"Arlwydd Penmachno" - un o gymeriadau'r diwydiant llechi yn 1885 - yn Chwarel y Penrhyn, o bosib. Allan o gasgliad [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|y Llyfrgell Genedlaethol]].]]
 
Dechreuodd '''diwydiant llechi Cymru''' yn y cyfnod [[Rhufeiniaid|Rhufeinig]], pan ddefnyddiwyd [[Llechfaen|llechi]] ar do caer [[Segontium]], [[Caernarfon]]. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r [[18g]], yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y [[19g]]. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin [[Cymru]], gan gynnwys [[Chwarel y Penrhyn]] ger [[Bethesda]], [[Chwarel Dinorwig]] ger [[Llanberis]], [[Dyffryn Nantlle]] a [[Blaenau Ffestiniog]], lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. Penrhyn a Dinorwig oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd, a [[Chwarel yr Oakeley]] ym Mlaenau Ffestiniog oedd y gloddfa lechi fwyaf yn y byd.<ref>RM Jones t. 72</ref> Defnyddir llechi yn bennaf ar doeau, ond mae darnau mwy trwchus o lechfaen yn cael eu defnyddio ar gyfer lloriau, byrddau gwaith a beddfeini ymhlith pethau eraill.<ref>Lindsay t. 133</ref> Mae'r ardal ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO ers 2021.<ref>{{cite web|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/57994907|title=Safle Treftadaeth Byd UNESCO i ardal llechi Gwynedd|date=29 Gorffennaf 2021|website=BBC Cymru Fyw|access-date=4 Awst 2021}}</ref>
 
Hyd at ddiwedd y 18g, cynhyrchid y llechi gan griwiau bach o chwarelwyr oedd yn talu i’r tirfeddiannwr am gael defnyddio’r chwareli. Byddent yn cario’r llechi i’r porthladdoedd ar gefnau ceffylau neu mewn certi, ac yna yn eu hallforio i [[Lloegr|Loegr]], [[Iwerddon]] ac weithiau [[Ffrainc]]. Tua diwedd y ganrif, dechreuodd y tirfeddianwyr mawr weithio’r chwareli eu hunain, ar raddfa fwy. Wedi i’r llywodraeth wneud i ffwrdd â'r dreth ar lechi yn 1831, tyfodd y diwydiant yn gyflym a datblygwyd rheilffyrdd cul i gario’r llechi i’r porthladdoedd.