Angharad Tomos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 36:
Fe'i ganed ym [[Bangor|Mangor]], [[Gwynedd]] ym 1958, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn [[Llanwnda (Gwynedd)|Llanwnda]] ger [[Caernarfon]]. Mynychodd [[Ysgol Gynradd Bontnewydd]] ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Cychwynodd ei haddysg uwch ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]], ond bu iddi adael er mwyn gweithio i [[Cymdeithas yr Iaith|Gymdeithas yr Iaith]]. Cafodd radd ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Cymru, Bangor]] yn ddiweddarach.
 
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd [[Cymdeithas yr Iaith]]. Enillodd goronFedal Lenyddiaeth [[Eisteddfod yr Urdd]] ym 1981 ac eto ym 1982 â'i chyfrol ''Hen Fyd Hurt'' ym 1982.
 
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres ''[[Rwdlan]]'', a leolir yng Ngwlad y Rwla. ''[[Rala Rwdins]]'' oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan [[Y Lolfa]] ym 1983.