Ferdinand Tönnies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 18:
Oherwydd yr anghydfodau deallusol yn yr Almaen Imperialaidd yn niwedd y 19g, ni allai Tönnies ymroddi ei hun yn llwyr at ddatblygu ei ddamcaniaeth cymdeithasegol. Fodd bynnag, cafodd gyfnod toreithiog o 1894 i 1913, a chynhyrchodd nifer o erthyglau am broblemau damcaniaethol a gyfrannai at dwf y maes ar droad y ganrif. Roedd yn aelod gweithgar ac amlwg o'r Gymdeithas dros Wleidyddiaeth Gymdeithasol (Verein für Sozialpolitik) a'r Gymdeithas dros Ddiwygio Cymdeithasol (Gesellschaft für Soziale Reform). Ym 1909 sefydlwyd Cymdeithas Cymdeithaseg yr Almaen gan Tönnies, [[Max Weber]], ac eraill.
 
Roedd cysyniad yr [[Ewyllys (athroniaeth)|ewyllys]] yn ganolog i ddamcaniaeth gymdeithasegol Tönnies. Nododd wahaniaeth rhwng ''Wesenwille'', yr ewyllys naturiol, a ''Kürwille'', yr ewyllys resymol. Amlygir yr ewyllys naturiol yn y ''Gemeinschaft'' ([[cymuned]]), a gynhelir gan reolau traddodiadol ac undod organaidd, ond gall yr honno drawsnewid yn ''Gesellschaft'' ([[cymdeithas]]) sydd yn seiliedig ar hunan-les yn ôl yr ewyllys resymol. Trwy'r ddamcaniaeth hon, ceisiodd Tönnies ddatrys y ddadl gychwynnol yn y ddisgyblaeth rhwng y ddamcaniaeth organaidd o undod cymdeithasol a chysyniadaeth y cyfamod cymdeithasol.
 
== Diwedd ei oes ==