Genedigaeth wyryfol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
 
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= gwladwriaeth}}
 
Cred ac athrawiaeth [[diwinyddiaeth|ddiwinyddol]] yng [[Cristnogaeth|Nghristnogaeth]] yw'r '''enedigaeth wyryfol''' sy'n haeru taw'r [[Forwyn Fair]] oedd unig riant naturiol [[Iesu Grist]], ac felly [[gwyrth]] drwy rym [[yr Ysbryd Glân]] oedd ei beichiogi. Sail y gred hon yw'r straeon am [[geni'r Iesu|eni'r Iesu]] yn [[yr Efengyl yn ôl Mathew]] a'r [[Yr Efengyl yn ôl Luc|Efengyl yn ôl Luc]] yn [[y Testament Newydd]]. Cafodd yr [[athrawiaeth]] hon ei derbyn gan yr Eglwys yn yr 2g a'i hymgorffori yng [[Credo'r Apostolion|Nghredo'r Apostolion]]. Mae'r enedigaeth wyryfol yn gred bwysig yn [[yr Eglwys Gatholig Rufeinig]], [[yr Eglwys Uniongred]], a'r mwyafrif o eglwysi [[Protestaniaeth|Protestannaidd]]. Derbynir yr enedigaeth wyryfol yn ogystal gan [[Islam]], sydd yn ystyried Iesu yn broffwyd.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/Virgin-Birth |teitl=Virgin Birth |dyddiadcyrchiad=25 Ebrill 2018 }}</ref>