Darius I, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 6:
}}
 
Pedwerydd brenin [[Ymerodraeth Persia]] oedd '''Darius I''', [[Perseg]]: داریوش , [[Hen Roeg (iaith)|Hen Roeg]]: {{Hen Roeg|Δαρεῖος}}, ''Dareios'' (c. 549 CC - 486 CC). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y brenin a arweiniodd ymgyrch gyntaf y Persiaid yn erbyn y Groegiaid.
 
Roedd Darius, oedd yn fab i [[Hystaspes]], yn wreiddiol yn swyddog ym myddin [[Cambyses II, brenin Persia|Cambyses II]], a bu'n ymgyrchu gydag ef yn [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]]. Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan Darius, a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed [[Herodotus]] iddo farw mewn damwain.