Cenedlaetholdeb ethnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gh
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= gwladwriaeth}}
 
Ffurf ar [[cenedlaetholdeb|genedlaetholdeb]] sydd yn pennu [[cenedligrwydd]] ar sail [[grŵp ethnig]] yw '''cenedlaetholdeb ethnig'''. Pwysleisir [[hunaniaeth genedlaethol]] sydd yn tarddu o gydberthynas hanesyddol y grŵp ethnig hon, sydd yn aml ynghlwm wrth etifeddiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol, gan gynnwys iaith, crefydd, neu drefnau [[llwyth]] a [[carennydd|charennydd]]. Mae cenedlaetholwyr ethnig fel arfer yn ensynnu [[cenedl-wladwriaeth]] a chanddi boblogaeth sydd yn bennaf, neu hyd yn oed yn hollol, o'r grŵp ethnig hwnnw. Mae'r ideoleg hon yn groes felly i [[cenedlaetholdeb sifig|genedlaetholdeb sifig]]. Os ydy'r genedl ethnig yn lleiafrif o fewn [[gwladwriaeth]], gallasent ymgyrchu neu frwydro dros [[ymwahaniad|ymwahanu]] oddi arni er mwyn ennill [[sofraniaeth]] genedlaethol, er enghraifft drwy [[refferendwm]] neu ryfel [[annibyniaeth]]. Mae mudiadau [[iredentiaeth|iredentaidd]] yn anelu at gyfuno tiriogaethau o wladwriaethau gwahanol a chanddynt boblogaethau ethnig cyffredin.