Muammar al-Gaddafi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{marwolaeth diweddar}}
[[Delwedd:Muammar al-Gaddafi at the AU summit-LR.jpg|250px|bawd|Gadaffi (2009).]]
Arweinydd [[Libya]] oedd '''Muammar Abu Minyar al-Gaddafi''' ([[7 Mehefin]] [[1942]] – [[20 Hydref]] [[2011]]), neu'r '''Milwriad Gaddafi''' ([[Arabeg]] : معمر القذافي, Muʿammar Al-Qaḏâfî ; ceir sawl ffurf arall ar ei enw wedi'i drawslythrennu o'r Arabeg).
 
Cafodd ei eni yn [[Sirt]], Libya. Ef oedd arweinydd ''[[de facto]]'' Libya er 1970 yn sgîl gwrthdroi'r llywodraeth yn 1969. Nid yw'n dal swydd wleidyddol fel y cyfryw, gan adael gwleidyddion eraill i fod yn arlywydd a gweinidogion swyddogol, ac mae'n cael ei adnabod fel "Tywysydd Chwyldro Mawr Gweriniaeth Boblogaidd Sosialaidd Arabaidd Fawr Libya" neu "y Brawd-dywysydd". Fel arweinydd mae Gadaffi wedi cynnig "trydydd lwybr" i'r gwledydd sy'n datblygu a'r [[byd Arabaidd]], athroniaeth a geir yn ei lyfr adnabyddus ''Y Llyfr Gwyrdd''.