Defnyddiwr:Llusiduonbach/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
==Hanes==
Ym 1886, o dan arweiniad yr ieithydd Ffrengig [[Paul Passy]], sefydlodd grŵp o athrawon iaith o Ffrainc ac o Brydain yr hyn a enwyd ym 1897 yn y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol ([[Ffrangeg]]: ''{{lang|fr|l’Association phonétique internationale}}''). Roedd eu gwyddor wreiddiol yn seiliedig ar gynnig i ddiwygio orgraff y Saesneg o'r enw yr wyddor Romig, ond er mwyn gallu ei defnyddio ar gyfer ieithoedd eraill, câi'r symbolau amrwyio yn ôl yr iaith.<ref>"Originally, the aim was to make available a set of phonetic symbols which would be given ''different'' articulatory values, if necessary, in different languages." (International Phonetic Association, ''Handbook'', pp.&nbsp;195–196)</ref> Er enghraifft, cynrycholid y sain {{IPA|[ʃ]}} (sef, ''si'' yn ''siop'') gan y llythyren ⟨c⟩ yn Saesneg ond gan y deugraff ⟨ch⟩ yn Ffrangeg.<ref name="IPA194-196">International Phonetic Association, ''Handbook'', pp.&nbsp;194–196</ref> Serch hynny, adolygwyd yr wyddor ym 1888 er mwyn bod yn gyson ar draws yr ieithoedd ac felly dod yn sylfaen i bob adolygiad y dyfodol.<ref name="IPA194-196"/><ref>{{Cite journal|last=Passy |first=Paul |year=1888 |title=Our revised alphabet |journal=The Phonetic Teacher |pages=57–60}}</ref> [[Otto Jespersen]] a awgrymodd y syniad o greu'r Wyddor Seinegol Ryngwladol gyntaf mewn llythyr at Paul Passy a datblygwyd hi gan [[Alexander John Ellis]], [[Henry Sweet]], [[Daniel Jones (phonetician)|Daniel Jones]] a Passy.<ref>IPA in the Encyclopædia Britannica</ref>
 
Er y cychwyn, mae'r Wyddor wedi cael ei diwygio sawl gwaith. Ar ôl y diwygiadau a'r ehangiadau mawr ym 1900 a 1932, bu iddi aros heb newid hyd Gynhadledd Kiel y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol ym 1989. Roedd adolygiad bach ym 1993 pan ychwanegwyd pedair llythyren newydd am lafariaid '''canol-ganoledig'''<ref name="world">{{Cite book|title=The World's Writing Systems|last=MacMahon|first=Michael K. C.|publisher=Oxford University Press|year=1996|isbn=0-19-507993-0|location=New York|pages=821–846|chapter=Phonetic Notation|editor=P. T. Daniels and W. Bright (eds.)}}</ref> a thynnwyd llythrennau'r mewngyrcholion di-lais.<ref name=Pullum>Pullum and Ladusaw, ''Phonetic Symbol Guide'', pp.&nbsp;152, 209</ref> Adolygwyd yr Wyddor ddiwethaf ym mis Mai 2005 wrth i lythyren am gytsain [[Cytsain gnithiedig|gnithiedig]] [[Cytsain wefus-ddeintiol|wefus-ddeintiol]].<ref>{{cite web
|last=Nicolaidis|first=Katerina|title=Approval of New IPA Sound: The Labiodental Flap |url=http://www2.arts.gla.ac.uk/IPA/flap.htm |date=September 2005 |publisher=International Phonetic Association |accessdate=2006-09-17}}</ref> Heblaw am ychwanegu a thynnu symbolau, ailenwi symbolau a chategorïau a diweddaru ffurfdeipiau oedd y mwyafrif o newidiadau.<ref name="world" />
 
Crëwyd [[Estyniadau i'r Wyddor Seinegol Ryngwladol]] ar gyfer patholeg leferydd ym 1990 ac fe'u derbyniwyd yn swyddogol gan [[Cymdeithas Ryngwladol Seinegwyr ac Ieithyddion Clinigol|Gymdeithas Ryngwladol Seinegwyr ac Ieithyddion Clinigol]] ym 1994.<ref>International Phonetic Association, ''Handbook'', p.&nbsp;186</ref>
 
==Disgrifiad==
[[File:The International Phonetic Alphabet (revised to 2015).pdf|thumb|300px|Siart swyddogol yr Wyddor Seinegol Ryngwladol er 2015]]Darparu un llythyren am bob sain wahanol ([[Segment (ieithyddiaeth)|segment lleferydd]]) yw nod gyffredinol yr Wyddor Seinegol Ryngwladol, er nad yw hyn yn wir os yw'r sain ei hun yn un gymhleth.<ref>“From its earliest days...the International Phonetic Association has aimed to provide ‘a separate sign for each distinctive sound; that is, for each sound which, being used instead of another, in the same language, can change the meaning of a word’.” (International Phonetic Association, ''Handbook'', p.&nbsp;27)</ref> Golyga hyn:
* Nad yw'n defnyddio [[Amlgraff|cyfuniad o lythrennau]] i gynrychioli seiniau unigol, fel y mae ⟨ch⟩, ⟨dd⟩ ac ⟨ng⟩ y [[Gymraeg]], ac nad yw'n defnyddio llythrennau unigol i gynrychioli sawl sain fel y mae ⟨x⟩ yn cynrychioli {{IPA|/ks/}} a {{IPA|/ɡz/}} yn y [[Saesneg]];
* Nad oes llythrennau y mae eu sain yn dibynnu ar y cyd-destun megis ⟨c⟩ ac ⟨g⟩ "galed" a "meddal" mewn sawl iaith Ewropeaidd;
* Nad oes gan yr WSR, fel arfer, lythrennau gwahanol am ddwy sain os nad yw unrhyw iaith hysbys yn gwahaniaethu rhyngddynt, arfer o'r enw "detholusrwydd".<ref name="world2">{{Cite book|last=MacMahon|first=Michael K. C.|chapter=Phonetic Notation|editor=P. T. Daniels and W. Bright (eds.)|title=The World's Writing Systems|pages=821–846|publisher=Oxford University Press|year=1996|location=New York|isbn=0-19-507993-0}}</ref><ref group="note">Er enghraifft, dau fath o gynanu gwahanol sydd gan [[Cytsain gnithiedig|gyteseiniaid cnithiedig]] a [[Cytsain drawol|thrawol]] ond gan nad oes iaith wedi ei darganfod (eto) sydd yn gwahaniaethu rhwng, er enghraifft, cytsain gnithiedig orfannol a chytsain drawol orfannol, nid yw'r Wyddor Seinegol yn darparu llythrennau gwahanol ar eu cyfer. Yn lle hyn, mae'n rhoi un llythyren ({{IPA|[ɾ]}} yn yr achos hwn) i'r ddwy. A bod yn fanwl gywir, golyga hyn mai gwyddor rannol [[ffonemig]] yw'r Wyddor Seinegol Ryngwladol, nid un hollol [[ffonetig]].</ref>
Ymhlith symbolau'r WSR, 107 o lythrennau sydd yn cynrychioli cytseiniaid a llafariaid, 31 o farciau diacritig sydd yn addasu'r rhain a 19 o symbolau ychwanegol sydd yn dangos ansoddau [[Segment (ieithyddiaeth)|uwchsegmentol]] megis [[Hyd (seineg)|hyd]], [[Tôn (ieithyddiaeth)|tôn]], [[Pwyslais (ieithyddiaeth)|pwyslais]] a [[Goslef (ieithyddiaeth)|goslef]].<ref group="note" name=":0">Pum marc diacritig a phum llythyren sydd am donau a chyfunir y ddwy set am donau amlinellol.</ref> Ceir y symbolau ar ffurf siart a geir yma ac [http://www.internationalphoneticassociation.org/content/ipa-chart ar wefan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol].
 
=== Ffurfiau'r llythrennau ===