[[Delwedd:Wales and Anglesey - Lord Burghley's Atlas (1579), ff.98v-99 - BL Royal MS 18 D III.jpg|bawd|Map o Gymru gan [[Humphrey Lhuyd]] a gyhoeddwyd yn Atlas Lord Burghley yn 1579.]]
{{Daear}}
Gwyddor gwneud [[map]]iau a globau yw '''cartograffeg'''. Yn y gorffennol roedd cartograffwyr yn defnyddio pin a phapur i wneud hynny, ond erbyn heddiw mae llawer o fapiau yn cael eu gwneud trwy ddefnyddio [[cyfrifiadur]]on gyda [[meddalwedd]] arbennig: [[dylunio gyda chymorth cyfrifiadur]] (CAD), [[Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol]] (GIS) neu feddalwedd dylunio mapiau arbennig eraill.
[[Delwedd:Hecataeus world map-cy.svg|chwith|bawd|Ail-luniad o fap y byd gan [[Hecataeus]], tua 500 CC]]
== Hanes ==
Dylunwyd y map cynharaf tua 5000 CC, ond achosodd darganfod [[geometreg]] (yn [[Babilon]], tua [[2300 CC]]) ddatblygiadau mawr yn hanes gwneuthuriad mapiau. Mae'n bosib weld hynny ar fap enwog o Nippur (Babilon, tua 1400-1200 C.C.) a mapiau o'r cyfnod [[clasur]]ol o'r [[yr Aifft|Aifft]].