Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Elidir Sais"

Ychwanegwyd 14 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
(Tudalen newydd: Bardd o Wynedd a flodeuai ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg oedd '''Elidir Sais''' (fl. 1195 - 1246). Cyfyng iawn yw ein gwybodaeth...)
 
 
==Cerddi==
Mae deg o gerddi Elidir Sais wedi goroesi. Mae pump ohonyn nhw yn [[awdl]]au i [[Duw|Dduw]]. Ceir tair [[marwnad]] ganddo, un i [[Hywel ab Arthen]], un arall i [[Rhodri ab Owain Gwynedd]], ewythr [[Llywelyn Fawr]], ac un anghyffredin iawn i [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] Llywelyn, a Thegwaredd ab Iarddur gyda'i gilydd. Canodd fawl i [[Dafydd ab Owain Gwynedd]], ail ewythr Llywelyn, sy'n awgrymu iddo gael ei noddi gan y tywysog hwnnw a'i frawd Rhodri cyn i Lywelyn sefydlu ei awdurdod yng Ngwynedd. Yn olaf ceir [[dadolwch]] (cerdd o gynghor) i Lywelyn ab Iorwerth ei hun.
 
==Llyfryddiaeth==