Gwrthryfel Cernyw (1497): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Cornish rebellion of 1497"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:32, 26 Awst 2021

Roedd Gwrthryfel Cernyw 1497 (Cernyweg : Rebellyans Kernow), a elwir hefyd yn "wrthryfel Cernyw Cyntaf 1497", yn wrthryfel poblogaidd a ddechreuodd yng Nghernyw ac a ddaeth i ben gyda Brwydr Pont Deptford ger Llundain ar 17 Mehefin 1497.

Gwrthryfel Cernyw
Enghraifft o'r canlynolgwrthryfel Edit this on Wikidata
Dyddiad17 Mehefin 1497 Edit this on Wikidata
GwladBaner Cernyw Cernyw
Baner Lloegr Lloegr
Dechreuwyd1496 Edit this on Wikidata
Daeth i ben17 Mehefin 1497 Edit this on Wikidata
LleoliadCernyw Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
RhanbarthCernyw Edit this on Wikidata

Roedd y fyddin wrthryfelgar yn cynnwys Cernywiaid yn bennaf, gyda chefnogaeth hefyd o Ddyfnaint, Gwlad yr Haf a siroedd eraill yn Lloegr.[1] Roedd y gwrthryfel yn ymateb i galedi a achoswyd gan godi trethi rhyfel gan y Brenin Harri VII i ariannu ymgyrch yn erbyn yr Alban.[2][3] Dioddefodd Cernyw yn arbennig oherwydd bod y brenin wedi rhoi’r gorau i weithrediad ddiwydiant cloddio tun, mewn modd cyfreithiol.

Canlyniad uniongyrchol y gwrthryfel oedd cael ei trechu gan fyddin Lloegr, dienyddiwyd y prif arweinwyr, a lladdwyd llawer o wrthryfelwyr eraill. Efallai ei fod wedi arwain Perkin Warbeck, a hawliai gorsedd brenin Lloegr, i ddewis Cernyw fel ei ganolfan yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar gyfer ymgais arall i ddymchwel Harri VII: pennod o'r enw 'Ail Wrthryfel Cernyw (1497)'. 11 mlynedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, aeth y brenin i'r afael â phrif achwyniad Cernyw trwy ganiatáu i gynhyrchu tun ailddechrau'n gyfreithlon, gyda mesur o ymreolaeth i Gernyw.

Cefndir

Cynyddodd cyfres o weithredoedd gan y Brenin Harri VII ar ddiwedd 1496 a dechrau 1497 galedi uniongyrchol llawer o'i ddinasyddion, yn enwedig yng Nghernyw.

Yn 1496, ar ôl anghytuno ynghylch rheoliadau newydd ar gyfer y diwydiant mwyngloddio tun, ataliodd y brenin, gan weithio'n rhannol trwy Ddugiaeth Cernyw, weithrediad a breintiau stannaries Cernyw, a oedd yn rhan fawr o economi'r sir.[4][5] Roedd y stannary yn rym cyfreithiol yn siroedd Lloegr, Cymru, Cernyw a Dyfnaint i reoli'r gwaith o gasglu arian, a oedd yn daladwy ar dun metel a fwyndoddwyd o'r mwynau a gloddiwyd yn y wlad. Yng Nghernyw trosglwyddwyd y ddyletswydd i Ddugiaeth Cernyw; yn Nyfnaint i'r Goron. Roedd y breintiau, a oedd yn cynnwys eithrio rhag talu rhai trethi brenhinol a lleol, wedi'u rhoi gan Edward I ym 1305.[6][7]

Roedd Harri VII yn 1496-7 yn ofni goresgyniad gan frenin yr Alban a’r rhagflaenydd Perkin Warbeck, ac felly, cododd Harri gyfres anhygoel o alwadau ariannol ar ei ddinasyddion: benthyciad gorfodol ddiwedd 1496, ac yn gynnar yn 1497 cyfran ddwbl o drethiant 'pymthegfed a degfed ran'. ac ardoll 'cymhorthdal arbennig'.ar ben hynny. Syrthiodd y baich yn drymach ar Gernyw na'r mwyafrif o ardaloedd, yn enwedig wrth gasglu'r benthyciad gorfodol.[8]

Gwrthryfel

Dechreuadau yng Nghernyw

Cafwyd y brotest gyntaf ym mhlwyf Pluwaghevran (a elwir yn Saesneg yn St Keverne) ar benrhyn An Lysardh, lle bu drwgdeimlad eisoes yn erbyn gweithredoedd Syr John Oby, profost Coleg Glasneth yn Mhenryn, Cernyw casglwr trethi’r ardal honno.[9][10] Mewn ymateb i ardoll dreth y Brenin Harri, anogodd Michael Joseph (Michael An Gof), gof o Pluwaghevran a Thomas Flamank, cyfreithiwr o Bosvena (Bodmin), bobl Cernyw i wrthryfel arfog. Lluniodd Flamank nod y gwrthryfel, sef i gael gwared ar ddau was y brenin a ystyriwyd yn gyfrifol am ei bolisïau trethiant: y Cardinal John Morton (yr Arglwydd Ganghellor) a Syr Reginald Bray (Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn).[11] Yn ddiweddarach, fe greodd hyn rywfaint o le i ddadlau nad oedd y gwrthryfel yn frad, ond yn ddeiseb anwleidyddol ei natur.[12] Roedd deiseb y gwrthryfelwyr yn cynnwys o leiaf dau gyn-AS, Flamank (AS Bodmin ym 1492) a William Antron (AS Helston ym 1491-92).

Gorymdaith i Lundain

Gorymdeithiodd byddin o tua 15,000 i Ddyfnaint, gan ddenu cefnogaeth ar ffurf darpariaethau (bwyd, arfau ayb) a recriwtiaid wrth iddynt . [13]deithio. Yn Nyfnaint, fodd bynnag, roedd y gefnogaeth i'r gwrthryfel yn llawer is nag yng Nghernyw, yn ôl pob tebyg oherwydd bod y stannaries yno wedi derbyn rheoliadau newydd ym 1494, ac wedi osgoi'r cosbau a achoswyd i'w cymheiriaid yng Nghernyw.[14]

Wrth fynd i mewn i Wlad yr Haf, daeth byddin y gwrthryfelwyr i Taunton, lle adroddir iddynt ladd un o gomisiynwyr y Comisiwn treth.[15][16] Yn Wells, ymunodd James Touchet, y seithfed Barwn Audley, a oedd eisoes wedi bod mewn gohebiaeth ag An Gof a Flamank. Fel aelod o'r uchelwyr â phrofiad milwrol fe'i derbyniwyd yn llawen a'i ganmol fel eu harweinydd. Yna parhaodd y gwrthryfelwyr tuag at Lundain, gan orymdeithio trwy Gaersallog (Salisbury) a Chaerwynt (Winchester).[17][18]

Paratoi milwrol, ger Llundain

Roedd y Brenin Harri wedi bod yn paratoi ar gyfer rhyfel yn erbyn yr Alban. Pan ddysgodd fod y gwrthryfelwyr a’u niferoedd yn nesau at Llundain, fe ddargyfeiriodd ei brif fyddin o 8,000 o ddynion o dan yr Arglwydd Daubeny i’w cyfarfod, tra anfonwyd llu amddiffynnol o dan Iarll Surrey i ffin yr Alban. Gwersyllodd byddin Daubeny ger Hounslow Heath ar 13 Mehefin. Ar yr un pryd, roedd braw cyffredinol ymhlith dinasyddion Llundain, a symudodd llawer ohonynt i amddiffyn y ddinas. Drannoeth, fe wnaeth criw o 500 o bicellwyr Daubeny wrthdaro gyda’r gwrthryfelwyr ger Guildford.[19]

Tan hynny, nid oedd byddin y gwrthryfelwyr wedi cwrdd â gwrthwynebiad arfog, ond nid oeddent ychwaith wedi ennill nifer sylweddol o recriwtiaid newydd ers iddynt basio trwy Wlad yr Haf. Nawr yn lle mynd at Lundain yn uniongyrchol fe wnaethant droi tua'r de, gan fod Flamank yn credu y byddent yn ennill cefnogaeth o Gaint, ar ochr bellaf (ochr dde-ddwyreiniol) Llundain. Yn unol â hynny, ar ôl Guildford symudon nhw trwy Banstead i Blackheath, ardal o dir uchel i'r de-ddwyrain o'r ddinas, lle y cyrhaeddon nhw ar 16 Mehefin 1497. Fodd bynnag, ni chafwyd fawr o gydymdeimlad o Gaint. I'r gwrthwyneb, cynulliodd llu o ddynion o Gaint yn eu herbyn o dan uchelwyr teyrngarol, Iarll Caint, Arglwydd y Fenni, a'r Arglwydd Cobham.[20]

Gan fod y Brenin bellach wedi crynhoi byddin fawr yn Llundain, roedd y rhagolygon ar gyfer y gwrthryfelwyr yn amlwg yn dywyll, ac roedd cryn siom yn eu plith y noson honno yn eu gwersyll ar Blackheath. Roedd An Gof yn bendant fod angen paratoi ar gyfer brwydr. Ond roedd llawer eisiau rhoi’r ffidil yn y to: nid rhyfela uniongyrchol yn erbyn y Brenin oedd yr alwad wreiddiol, ond gwneud iddo newid ei brif gynghorwyr a’i bolisïau trethiant. Ffodd rhai miloedd o rengoedd y gwrthryfelwyr y noson honno.[21]

Brwydr Pont Deptford

Gosod a defnyddio

Digwyddodd Brwydr Pont Deptford (a elwir hefyd yn Frwydr Blackheath) ar 17 Mehefin 1497 ar safle yn Deptford heddiw yn ne-ddwyrain Llundain, ar lan Afon Ravensbourne; dyma benllanw Gwrthryfel Cernyw. Roedd y gwrthryfel wedi methu â denu digon o gefnogaeth newydd na symud yn ddigon cyflym. Roedd y gwrthryfelwyr bellach yn paratoi i amddiffyn, yn hytrach nag ymosod. Credir fod gan Harri Tudur tua 25,000 o filwyr, tra bod y gwrthryfelwyr, ar ôl i lawer ffoi, tua 10,000 neu lai. Nid oedd ganddynt ychwaith farchoglu na magnelau ategol - a oedd yn hanfodol i fyddin broffesiynol yr oes.[22]

Roedd y brenin wedi lledaenu gair y byddai'n ymosod ar y gwrthryfelwyr ddydd Llun 19 Mehefin, ond mewn gwirionedd fe wnaeth hynny yn gynnar ar yr 17eg. Roedd yn ystyried dydd Sadwrn fel ei "ddiwrnod lwcus" . Roedd ei luoedd yn cynnwys tair bataliwn, wedi'u lleoli er mwyn amgylchynu tir uchel Blackheath lle roedd y rhan fwyaf o fyddin y gwrthryfelwyr wedi gwersylla.[23]

Yr ymladd

Ymosododd y cryfaf o fataliynau'r brenin, o dan yr Arglwydd Daubeny, ar hyd y briffordd o Lundain. Roedd hyn yn cynnwys croesi Pont Deptford (ger y pwynt lle mae Afon Ravensbourne yn troi'n Deptford Creek cyn ymuno ag afon Tafwys). Roedd y gwrthryfelwyr wedi paratoi'n ddigon da i osod gynnau a saethwyr yno, a achosodd anafiadau difrifol i bicellwyr Syr Humphrey Stanley a gafodd y dasg o sicrhau'r bont. Serch hynny, llwyddodd cwmni Stanley i yrru'r gynwyr a'r saethwyr oddi yno, gan ladd rhai ohonyn nhw.[24]

Bellach, arweiniodd yr Arglwydd Daubeny yr ymosodiad i fyny i brif safle'r gwrthryfelwyr ar y rhostir. Mor feiddgar oedd ei arweinyddiaeth nes iddo gael ei wahanu odi wrth gweddill ei fyddin, a'i amgylchynu gan y gelyn, a'i gipio am gyfnod. Gallai'r gwrthryfelwyr fod wedi ei ladd, ond gadawyd iddo fynd heb anaf. Oherwydd y niferoedd yn eu herbyn, oherwydd eu bod wedi eu hamgylchynu, wedi'u hyfforddi'n wael ac oherwydd diffyg arfau effeithiol, a'u bod yn brin o wyr meirch, edrychai'n draed moch ar ddewrion Cernyw. [25]

Ffodd y gwrthryfelwyr am eu bywydau, cipiwyd John Flamank a'r Arglwydd Audley ar faes y frwydr. Ffodd Michael Joseph (An Gof), yn ôl pob golwg i geisio noddfa mewn mynachdy (ger yr hen balas lle saif Hen Goleg y Llynges Frenhinol Greenwich bellach), ond cafodd ei ddal cyn iddo allu mynd i mewn.[26]

Wedi hynny

Ar ôl y frwydr, aeth y Brenin ar daith o amgylch maes y gad, gan farchogi'r milwyr mwyaf nerthol, ac yna dychwelodd drosBont Llundain i'r ddinas, lle gwobrwyodd ychydig o rai eraill, gan gynnwys y Maer, am eu gwasanaethau wrth warchod Llundain a bwydo'r fyddin. Yna mynychodd wasanaeth byrfyfyr yn Eglwys Gadeiriol St Paul.[27]

Cyhoeddwyd y gallai milwyr a oedd wedi cymryd gwrthryfelwyr yn garcharorion eu pridwerthu'n breifat, a chadw neu werthu eu heiddo.[28]

Canlyniadau'r gwrthryfel

Dienyddiwyd An Gof a Flamank yn Tyburn ar 27 Mehefin 1497. Cofnodir bod Gof Gof wedi dweud cyn ei farwolaeth (tra ei fod ynghlwm wrth rwystr yn cael ei lusgo tuag at y man dienyddio) y dylai fod ganddo "enw gwastadol ac enwogrwydd yn barhaol ac yn anfarwol".[29] Roedd y ddau ohonyn nhw wedi cael eu dedfrydu i gael eu crogi, eu tynnu a'u chwarteru. Fodd bynnag, trugarhaodd y brenin atynt, drwy roi marwolaeth gyflymach iddynt, trwy hongian yn unig, cyntorri eu pennau a'u chwarteru.[30] Dywedodd Croniclwr Llundain fod eu pennau wedi’u gosod ar Bont Llundain, chwarteri Flamank ar bedair o gatiau’r ddinas, ac anfonwyd chwarteri An Gof i gael eu harddangos mewn gwahanol fannau yn Nyfnaint a Chernyw.[31] Mae dwy ffynhonnell arall o’r 16g (Hall a Polydore Vergil) yn nodi, er bod y brenin yn wreiddiol yn bwriadu arddangos y coesau chwarterol mewn gwahanol rannau o Gernyw, fe’i perswadiwyd i beidio a thynnu blew o drwynau'r Cernywiaid trwy wneud hyn.[32][33]

Torrwyd pen Audley ar 28 Mehefin yn Tower Hillac fe'i arddangoswyd gyda phennau An Gof a Flamank ar Bont Llundain.[34]

Yn dilyn hyn, ac fel dial am eu gweithredoedd, rhoddwyd cosbau ariannol difrifol gan asiantau’r Goron ar lawer o Gernywiaid, gygwyd eu tiroedd, atafaelwyd ystadau cyfan, a'u rhoi i Saeson ffyddlon a ochrodd gyda'r brenin. Dyma hefyd bolisi Lloegr yng Nghymru yn dilyn rhyfeloedd Llywelyn II ac Owain Glyn Dŵr. 

Yn 1508 rhoddodd Harri bardwn i’r gweithwyr tun am barhau i gynhyrchu tun, yn groes i reoliadau Dugiaeth Cernyw; diddymwyd y rheoliadau eu hunain; ac adferwyd pŵer Senedd Stannary Cernyw (Cornish Stannary Parliament) i gymeradwyo unrhyw reoliadau yn y diwydiant tun.[35]

Cofebion

 
Plac coffa mewn Cernyweg a Saesneg ar gyfer 'Michael Joseph the Smith (An Gof)' a Thomas Flamank wedi'i osod ar ochr ogleddol Blackheath, de-ddwyrain Llundain, ger y fynedfa ddeheuol i Greenwich Park

Ym 1997, fe wnaeth gorymdaith goffa (o'r enw Keskerdh Kernow; Cernyweg: "Gorymdaith Cernyw'n parhau") ddilyn y llwybr gwreiddiolo Pluwaghevran (St. Keverne) i Blackheath, Llundain, i ddathlu hanner canmlwyddiant Gwrthryfel Cernyw. Dadorchuddiwyd cerflun yn darlunio arweinwyr Cernyw, "Michael An Gof" a Thomas Flamank, ym mhentref An Gof sef Pluwaghevran a dadorchuddiwyd murluniau hefyd yn Guildford ac ar Blackheath.

Cafodd enw tîm rygbi cynghrair Cernyw, y <i>Cornish Rebels</i>, ei ysbrydoli gan Wrthryfel Cernyw 1497.

Yn 2017 dadorchuddiodd Peabody Trust / Family Mosaic gloc haul i goffáu’r frwydr yn Deptford. Dyluniwyd a gwnaed y gofeb gan yr artist mosaig o Lundain, Gary Drostle.

Mae heneb garreg i goffáu'r gwrthryfelwyr Thomas Flamank a Michael Joseph wedi'i lleoli y tu allan i 43 Fore Street ym Mosvena (Bodmin).

Gweler hefyd

  • Ail Wrthryfel Cernyw 1497
  • Rhestr o bynciau sy'n ymwneud â Cernyw
  • Gwrthryfel Llyfr Gweddi

Nodiadau

 

Cyfeiriadau

  • Arthurson, Ian (1987). "Chapter 1: The Rising of 1497: A Revolt of the Peasantry?". In Rosenthal, Joel; Richmond, Colin (gol.). People, Politics and Community in the Later Middle Ages. Alan Sutton Publishing Limited. tt. 1–18. ISBN 0-312-01220-9.CS1 maint: date and year (link)
  • Cavill, Paul R. (2009). The English parliaments of Henry VII 1485-1504. Oxford University Press. ISBN 9780191610264.
  • Cooper, John P.D. (2003). Propaganda and the Tudor state: Political culture in the Westcountry. Oxford University Press. ISBN 0-19-926387-6.
  • Fletcher, Anthony (1983). Tudor Rebellions. Longman. ISBN 0-582-35255-X.
  • Fletcher, Anthony; Maculloch, Diarmaid (2014). Tudor Rebellions (arg. 5th). Hoboken: Taylor and Francis. ISBN 9781317863816.
  • Hall, Edward (1809). Hall's Chronicle. London.
  • Kingsford, Charles Lethbridge, gol. (1905). Chronicles of London. Oxford: Clarendon Press.
  • Rowse, A.L. (1969). Tudor Cornwall:Portrait of a Society. London: Macmillan.
  • Sutton, Dana F. (gol.). Polydore Vergil, Anglica Historia (1555 version). The Philological Museum, Birmingham University.

Dolenni allanol

  1. Arthurson 1987
  2. Arthurson 1987
  3. Halliday, F. E. (2008). A History Of Cornwall. House of Stratus. ISBN 978-0755118786.
  4. Cooper 2003, t. 192
  5. Fletcher & Maculloch 2014
  6. Cooper 2003, t. 192
  7. Fletcher & Maculloch 2014
  8. Cavill 2009, t. 192
  9. "Exeter and the Cornish rebellions of 1497". Devon Perspectives.
  10. Rowse 1969
  11. Fletcher 1983
  12. Rowse 1969
  13. Fletcher & Maculloch 2014, tt. 22–23
  14. Cooper 2003
  15. Hall 1809
  16. Fletcher 1983
  17. Rowse 1969
  18. Fletcher 1983
  19. Rowse 1969, t. 124-5
  20. Rowse 1969, t. 123
  21. Rowse 1969, t. 123
  22. Rowse 1969, tt. 122-126
  23. Rowse 1969
  24. Rowse 1969, t. 126
  25. Rowse 1969
  26. Rowse 1969, t. 126
  27. Rowse 1969
  28. Rowse 1969
  29. Hall 1809, t. 479
  30. Kingsford 1905, t. 216
  31. Kingsford 1905, t. 216
  32. Hall 1809, t. 480
  33. Polydore Vergil's Anglica Historia (1555 version)
  34. Kingsford 1905, t. 216
  35. Cooper 2003