Norn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Cyflwynwyd yr iaith yn y 9g ar draul yr iaith [[Picteg]]. Bu farw siaradwr olaf yr iaith tua 1850. <ref>https://www.youtube.com/watch?v=sBt-bCnbhq0</ref> Yn 1894 ymwelodd Jacob Jacobsen ieithydd o [[Ynysoedd Ffaroe]] ag ynysoedd Shetland ac Erch, ond enwedig Shetland, er mwyn cofnodi'r iaith Norn fyddai'n debyg i'w [[Ffaroeg]] ef. Cofnododd oddeutu 10,000 o eiriau gan hen drigolion yr ynysoedd. Yn 1928 cyhoeddodd ei ymchwil yn y llyfr yn [[Daneg]],''Etymologisk ordbog over det norrøne sprog på Shetland'' (a gyfieithwyd yn ddiweddarach i'r Saesneg). Yn 1929 cofnododd Albanwr, Hugh Marwick, oddeutu 3,000 o eiriau o dafodiaeth Ynysoedd Erth o'r iaith.
 
==Nynorn==
Mae mudiad i adfywio'r iaith gan ei alw'n ''Nynorn''. Ceir trafodaeth ar [[seineg]] ac [[orgraff]] yr iaith a faint dylid echdynnu o'r dylanwad yr iaith [[Sgoteg]] a dreiddiodd i'r iaith dros genedlaethau.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=sBt-bCnbhq0</ref>
 
==Enghraifft==