Cerfio pren ym Mhalesteina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen WD
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 2:
Dechreuodd y traddodiad o gerfio pren efo llaw yn y [[4G|4g OC]], yng ngyfnod [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd]] ym Methlem. Mae'r ddinas yn parhau i fod y brif fan sy'n cynhyrchu'r grefft.
 
Roedd mynachod [[Eglwys Uniongred Roegaidd|Uniongred Gwlad Groeg]] yn dysgu trigolion lleol sut i gerfio pren [[Olewydden|olewydd.]]<ref>[http://www.giftscrafts-shop.com/ Bethlehem olive wood Crafts] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20190523150409/http://giftscrafts-shop.com/ |date=2019-05-23 }} Gifts and Crafts.</ref> Datblygodd y grefft a daeth yn ddiwydiant mawr ym Methlehem a threfi cyfagos fel [[Beit Sahour]] a Beit Jala yn yr [[16eg ganrif|16g]] a'r [[17g]] pan [[Yr Eidal|ddysgodd crefftwyr Eidalaidd]] a [[Urdd Sant Ffransis|Ffransisgaidd]] ar bererindod i'r ardal y preswylwyr sut i gerfio. Ers hynny mae'r traddodiad wedi cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn enwedig gan ddisgynyddion y cerfwyr lleol gwreiddiol.
 
Heddiw, mae'r gelf yn parhau i fod yn brif ffynhonnell incwm i drigolion Cristnogol Palestinaidd Bethlehem a hi yw'r atyniad twristiaeth mwyaf (a'r mwyaf proffidiol) yn y ddinas gyda'r prif brynwyr yn bererinion Cristnogol yn ymweld yn [[Nadolig|ystod y Nadolig]].<ref name="BM">blessings gift shop and The Olive wood factory in Bethlehem</ref> Mae pren olewydd yn cael ei gerfio'n groesau, blychau, fframiau lluniau, cloriau ar gyfer llyfrau hanesyddol a hen, canhwyllbrennau, rosaris, wrnau, fasau ac addurniadau Nadolig yn ogystal â golygfeydd o'r Teulu Sanctaidd.<ref name="BM" /> Mae canghennau pren olewydd yn cael eu cyflenwi gan lwyni olewydd mewn pentrefi cyfagos yn ogystal ag o ranbarth [[Nablus]] a Tulkarm, er gwaethaf anhawster cludo yn y [[Y Lan Orllewinol|Lan Orllewinol]].<ref name="BM" />