Welsh Not: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 11:
 
==Dechreuadau==
Ym [[1846]] fe ofynnwyd cwestiynau yn [[San Steffan]] ynglŷn â'r gwrthryfel oedd yn digwydd yng Nghymru ar y pryd. Yn dilyn araith gan y Cymro ac aelod seneddol [[Coventry (etholaeth seneddol)|Coventry]], William Williams, comisiynwyd adroddiad o le'r Gymraeg yn y system addysg. Daeth y defnydd o'r ''Welsh Not'' yn fwy cyffredin ar ôl cyhoeddi'r adroddiad yn [[1847]] mewn cyfrolau glas, sefa elwir, bellach, yn ''y [[Brad y Llyfrau Gleision|Frad y Llyfrau Gleision]]'' enwog. Roedd yr adroddiad yn disgrifio'r Gymraeg a'i diwylliant fel anfantais i'r [[Cymry]] ac yn argymell y dylai pawb siarad Saesneg. Saesneg, yn âl Adroddiad Addysg 1847, oedd iaith ‘dod ymlaen yn y byd’, iaith dysg a diwylliant, gwyddoniaeth a pheirianneg. Disgrifiwyd y Gymraeg gan awduron y Llyfrau Gleision fel iaith crefydd ac amaethyddiaeth a’i llenyddiaeth bron yn amddifad o unrhyw waith defnyddiol a pherthnasol i’r oes oedd ohoni. Roedd cryn ymryson a theimlwyd bod comisiynwyr wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gofynnwyd amdano mewn adrannau, gan roi sylwadau am foesau'r Cymry.<ref name="BBC" />
 
Mae tystiolaeth gadarn o ddefnydd y ''Welsh Not'' yng [[Ceredigion|Ngheredigion]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]] a [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]] cyn y [[1870au]]. Mae'n annhebyg bod hwn yn bolisi swyddogol, gan mai mewn ysgolion gwirfoddol yn bennaf mae'r dystiolaeth i'w chael.<ref name="BBC" /> Mae [[Owen Morgan Edwards]] yn disgrifio ei brofiad o'r ''Welsh Not'' yn ysgol [[Llanuwchllyn]] yn ei gyfrol [[Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg|''Clych Adgof'']].