Christine James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 9:
Ganed Christine James (née Mumford) yn [[Tonypandy|Nhonypandy]]. Daeth teulu ei thad o ganolbarth Lloegr a theulu ei mam o dde-orllewin Lloegr, ond ganwyd ei rhieni yng Nghwm Rhondda Fawr. Nid oedd eu rhieni yn siarad Cymraeg heblaw am ambell air o ddyddiau ysgol felly Saesneg oedd iaith yr aelwyd.<ref name="gloran-holiadur"/> Aeth i Ysgol Gynradd Tonypandy ac ymlaen i [[Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth]] lle dysgodd y Gymraeg fel ail iaith. Astudiodd y Gymraeg ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] lle enillodd radd BA yn y dosbarth cyntaf yn 1975. Aeth ymlaen i olygu testun o Gyfraith Hywel, cyfreithiau hanesyddol Cymru, ar gyfer doethuriaeth, a ddyfarnwyd iddi yn 1984.
Rhwng 1979 a 1981 bu'n gynorthwyydd golygyddol yn yr Academi Gymreig, yn gweithio ar ''Cydymaith i Lenydddiaeth Cymru''. Yn [[1985]], fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle y mae erbyn hyn yn Athro Emerita.<ref name="swan.ac.uk">
Yn 2001 cyhoeddwyd ei golygiad o gerddi'r bardd [[D. Gwenallt Jones]], ''Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn'' (Gwasg Gomer).
|