Yasser Arafat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Arweinydd gwleidyddol Palesteinaidd oedd '''Yasser Arafat''' ([[24 Awst]] [[1929]] – [[11 Tachwedd]] [[2004]]). Ganwyd yn ninas [[Cairo]], yr [[Aifft]], ac ystyriwyd ef yn ymladdwr dros ryddid [[Palesteina]] gan ei gefnogwyr ac fel terfysgwr gan eraill megis [[Israel]]. Roedd yn gyd-sefydlydd [[Mudiad Rhyddid Palesteina]] (y PLO) a'i gadeirydd o [[1969]] ymlaen, ac o dan faner y mudiad hwnnw bu'n gyfrifol am lu o ymosodiadau ar dargedau Israelaidd ac Arabiaidd fel ei gilydd. Daeth wedyn yn Llywydd [[Awdurdod Cenedlaethol Palesteina]] trwy fod yn Arlywydd [[Cyngor Llywodraethol Palesteina]], ac yn gyd-enillydd [[Gwobr Heddwch Nobel]] yn [[1994]], gyda [[Shimon Peres]] a [[Yitzhak Rabin]].
 
Trwy'r rhan fwyaf o'i yrfa, bu'n brwydro dros ddileu'r Wladwriaeth Iddewig, ac er iddo gydnabod hawl [[Israel]] i fodoli yn yr 1990au cynnar, roedd llawer o Iddewon yn dal i fod yn ddrwgdybus ohono. Bu hefyd yn gorfod brwydro gydag arweinwyr rhai gwledydd Arabaidd eraill, fel yr [[Aifft]] a [[Gwlad Iorddonen]], a oedd yn gweld ei fudiad yn fygythiad i'w hawdurdod.