Radio Bro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Hughpugh (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Dolenni gwahaniaethu |
||
Llinell 9:
|gwefan = [http://www.broradio.fm// Radio Bro]
|}}
Gorsaf radio cymunedol yw Radio Bro (''Bro Radio'') sy'n sy'n gwasanaethu ardaloedd arfordirol [[Bro Morgannwg]], gan gynnwys [[Y Barri]], [[Llanilltud Fawr]] a [[Penarth]].
Mae'n darlledu o stiwdios yng nghanolfan YMCA yn Y Barri ac yng nghanolfan CF61 yn Llanilltud Fawr ar 98.1 a 100.2 FM ac yr wefan yr orsaf.
Mae Radio Bro yn darlledu dros 110 awr bob wythnos o raglenni cerddoriaeth a sgyrsiau, gan gynnwys newyddion lleol a materion cyfroes, rhaglenni cylchgrawn, a rhaglenni cerddoriaeth arbenigol.
Mae nhw'n darlledu bwletinau newyddion Sky News Radio bob awr gyda bwletinau lleol ar yr hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhaglen materion cyfoes, ''The Vale This Week'', ar nos Fercher.<ref>{{Cite web|title=Public File - Bro Radio|url=https://broradio.fm/public-file/|access-date=2021-09-03|language=en}}</ref>
Mae'r orsaf hefyd yn cynhyrchu rhaglenni misol ar faterion busnes, diwylliant ac ieuenctid gyda sioe gerddoriaeth yn Gymraeg ar yr ail nos Fawrth o'r mis.<ref>{{Cite web|title=Bro Radio expands monthly programming offering|url=https://broradio.fm/on-air/bro-radio-expands-monthly-programming-offering/|access-date=2021-09-03|language=en}}</ref>
Lawnswyd Radio Bro ar ddydd Iau 1 Mawrth 2012 yn ardal y Barri ar 98.1 FM. Lansiwyd yr orsaf gan gan ei gyflwynydd cyntaf, [[Gareth Sweeney]].
Ar wahân i newyddion cenedlaethol, cyflwynir a chynhyrchir pob rhaglen yn lleol neu o stwidios yn y Barri a Llanilltud Fawr. Mae dros 60 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn yr orsaf, ynghyd â chyfarwyddwr gweithrediadau taledig a rheolwr gwerthu a chyllid.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Radio Bro wedi ehangu ei chynnwys golygyddol i roi sylw ychwanegol i rhannau gorllewinol y sir. Mae orsaf hefyd yn bwriadu gwella ei derbyniad ar FM mewn ardaloedd dwyreiniol ([[Penarth]] a [[Dinas Powys]]) ac ym [[Bae Caerdydd|Mae Caerdydd]].<ref>{{Cite web|title=Bro Radio continues expansion across the Vale|url=https://broradio.fm/local-news/bro-radio-continues-expansion-across-the-vale/|access-date=2021-09-03|language=en}}</ref>
Mae'r Radio Bro wedi ennill nifer o wobrau diwydiant, gan gynnwys Gorsaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2020.<ref>{{Cite web|title=Bro Radio Picks Up Station Of The Year Award|url=https://broradio.fm/local-news/bro-radio-picks-up-station-of-the-year-at-community-radio-awards/|access-date=2021-09-03|language=en}}</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
==Dolenni allanol==
*{{eicon en}} [http://broradio.fm Bro Radio]
[[Categori:Gorsafoedd radio yng Nghymru|Bro]]
|