Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cenedlaetholdeb croenwyn"

Ychwanegwyd 83 beit ,  blwyddyn yn ôl
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210905sim)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
(→‎top: Gwybodlen WD using AWB)
(Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210905sim)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot)
 
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= gwladwriaeth}}
 
[[Cenedlaetholdeb]] sydd yn arddel taw [[cenedl]] yw'r [[pobl wynion|bobl wynion]], naill ai mewn cyd-destun rhanbarthol neu ryngwladol, a bod angen llywodraeth wen i sicrhau eu hawliau, hunaniaeth a diwylliant yw '''cenedlaetholdeb croenwyn'''. Fel mudiad byd-eang, neu ffurf ar [[holl-genedlaetholdeb]], mae'n pwysleisio etifeddiaeth gyffredin yr hil wen. Ar ei ffurfiau rhanbarthol mae'n galw am ddatblygu a chynnal [[hunaniaeth genedlaethol]] y bobl wynion o fewn gwlad benodol, gan amlaf gwlad a chanddi boblogaeth wen yn disgyn o sawl gwahanol [[grŵp ethnig]] [[Ewrop]]eaidd, er enghraifft [[Unol Daleithiau America]] neu [[De Affrica|Dde Affrica]]. Mae nifer o genedlaetholwyr croenwyn yn cefnogi cysyniad yr ethno-wladwriaeth wen, sef [[cenedl-wladwriaeth]] a fyddai'n neilltuo [[dinasyddiaeth]] ar gyfer gwynion ac yn diogelu eu buddiannau.<ref>{{cite journal | last1 = Rothì | first1 = Despina M. | last2 = Lyons | first2 = Evanthia | last3 = Chryssochoou | first3 = Xenia | title = National attachment and patriotism in a European nation: a British study | url = https://archive.org/details/sim_political-psychology_2005-02_26_1/page/135 | journal = Political Psychology | volume = 26 | issue = 1 | pages = 135–55 | doi = 10.1111/j.1467-9221.2005.00412.x | date = February 2005 | ref = harv }}</ref>
 
Nid yw cenedlaetholdeb croenwyn yn gyfystyr â [[balchder croenwyn]], [[goruchafiaeth y gwynion]], [[ymwahaniaeth groenwen]], nac [[hunaniaeth groenwen]], er bod y cysyniadau a'r creodau hyn i gyd yn cydgyffwrdd yn aml.