Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mosg Enfawr Nablus"

Lleihawyd o 208 beit ,  1 mis yn ôl
B
ychwanegu categori Wicibrosiect Palesteina using AWB
(ail lun)
B (ychwanegu categori Wicibrosiect Palesteina using AWB)
{{Pethau|fetchwikidata=ALL|suppressfields=|gwlad={{banergwlad|Palesteina}}}}
'''Mosg Enfawr Nablus''' ({{Lang-ar|جامع نابلس الكبير}}''; Jami 'Nablus al-Kebir'') yw'r [[mosg]] hynaf a mwyaf yn ninas [[Nablus]] ym [[Palesteiniaid|Mhalesteina]].<ref name="D,S, A-L">Dumper, Stanley and Abu-Lughod, 2007, p.267.</ref> Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol fel [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|eglwys Fysantaidd]] ac fe’i trawsnewidiwyd hi'n fosg yn ystod yr oes Islamaidd gynnar. Trawsnewidiodd y [[Croesgadwyr]] hi'n eglwys yn yr [[11g]], ond cafodd ei hail-gysegru'n fosg gan yr Ayyubids yn y [[12g]]. Mae'r mosg wedi'i leoli ar groesffordd prif strydoedd yr Hen Ddinas, ar hyd ymylon dwyreiniol yr ardal.<ref>[http://www.palst-jp.com/eg/eg_tt_ptv_05.html Places to Visit] General Mission of Palestine-Tokyo.</ref> Mae ganddo gynllun llawr hirsgwar hir, cul a chromen [[Arian (elfen)|arian.]]
 
== Hanes ==
[[File:Nablus Great Mosque.jpg|bawd|chwith|Hen lun o'r [[1900au]]]]
Yn ôl chwedl leol, dywedir mai dyma'r safle lle trosglwyddodd meibion Jacob côt amryliw eu brawd Joseph, fel tystiolaeth bod ei fod wedi marw.<ref name="D,S, A-L">Dumper, Stanley and Abu-Lughod, 2007, p.267.</ref> Mae'r traddodiad hwn yn fwy cysylltiedig â [[Mosg Al-Khadra|Mosg al-Khadra]] gerllaw, fodd bynnag.
 
[[basilica|Basilica]] a adeiladwyd yn ystod teyrnasiad [[Philip yr Arab|Philip yr Arab,]], yn wreiddiol yn 244-249, oedd safle'r Mosg Mawr. Yn ddiweddarach, adeiladodd y Bysantiaid eglwys gadeiriol ar adfeilion y basilica a dangosir yr eglwys gadeiriol hon ar Fap Madaba, mosaig yn 600 ÔC.<ref>Pringle, 1998, p. [https://books.google.com/books?id=2Y0tA0xLzwEC&pg=PA97 97]</ref> Mae'n debyg iddo gael ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan y [[Samariaid]] yn ystod eu cyrchoedd yn 484 a 529, ond adferwyd yr eglwys gadeiriol gan yr [[Justinianus I|Ymerawdwr Justinian I]] (a deyrnasodd o 483-565).<ref name="Pringle">Pringle, 1998, p. [https://books.google.com/books?id=2Y0tA0xLzwEC&pg=PA98 98]</ref>
 
Trawsnewidiwyd yr eglwys gadeiriol yn Fosg Fawr Nablus yng nghyfnod cynnar rheolaeth [[Caliphate|Arabaidd Islamaidd]] [[Palesteina|ym Mhalesteina]], yn y [[10g]].<ref>Dumper, Stanley and Abu-Lughod, 2007, p.266.</ref> Ysgrifennodd y daearyddwr Arabaidd al-Muqaddasi fod y Mosg Mawr yng “nghanol” Nablus, a bod “ei lawr mosaig yn fân iawn.” <ref>[[al-Muqaddasi]] quoted in le Strange, 1890, [https://archive.org/stream/palestineundermo00lestuoft#page/511/mode/1up p.511].</ref> Fe wnaeth y [[Y Croesgadau|Croesgadwyr]] ail-droi'r mosg yn eglwys, ond dim ond ychydig o newidiadau a wnaethant gan gynnwys adeiladu cromfan (aps). Yn 1187, trawsnewidiodd yr Ayyubids, dan arweiniad [[Saladin|Saladin,]], yr adeilad fel mosg eto. Llosgwyd yr adeilad i lawr gan Farchogion [[Urdd y Deml]] mewn cyrch ar [[Nablus|y ddinas ar]] 30 Hydref 1242.<ref name="Pringle">Pringle, 1998, p. [https://books.google.com/books?id=2Y0tA0xLzwEC&pg=PA98 98]</ref>
 
Roedd adeilad newydd yn i'w weld erbyn diwedd y [[13g]], fel y gwelwyd gan y croniclydd Arabaidd al-Dimashqi sydd, ym 1300, yn crybwyll y Mosg Mawr fel “mosg coeth, y dywedir gweddi ynddo, a lle darllenir [[Y Corân|y Qur'an]] ddydd a nos, gan ddynion a benodwyd i wneud y gwaith.”<ref>al-Dimashqi quoted in le Strange, 1890, [https://archive.org/stream/palestineundermo00lestuoft#page/513/mode/1up p.513].</ref> Yn 1335, cofnododd y teithiwr James o Verona fod y mosg wedi bod yn “eglwys i’r Cristnogion ond ei fod bellach yn fosg i’r [[Saracen|Saraseniaid]].”<ref name="Pringle">Pringle, 1998, p. [https://books.google.com/books?id=2Y0tA0xLzwEC&pg=PA98 98]</ref> Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ymwelodd [[Ibn Batuta]] ag ef a nodi bod “tanc o ddŵr melys yng nghanol y mosg.”<ref>[[Ibn Batuta]] quoted in le Strange, 1890, [https://archive.org/stream/palestineundermo00lestuoft#page/514/mode/1up p.514].</ref>
 
Yn 1641, ailadeiladwyd [[Meindwr|y meindwr]] ond mae'r rhan helaeth o'r mosg wedi aros bron heb ei gyffwrdd trwy gydol ei fodolaeth, hyd nes i ddaeargryn difrifol daro [[Palesteina|Palestina]], yn enwedig Nablus ym 1927. Dinistriwyd cromen a meindwr y mosg o ganlyniad i'r daeargryn hwn, ond fe'u hadferwyd ym 1935.
{{commons category}}
{{rheolaeth awdurdod}}
 
[[Categori:Mosgiau Palesteina]]
[[Categori:Wicibrosiect Palesteina]]
450,625

golygiad