Y Dydd Olaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
rhai pethau sydd wedi eu gwireddu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
dolen i'r fersiwn Gernyweg
Llinell 29:
:''Erthygl am y nofel wyddonias yw hon; am albwm Gwenno Saunders gweler [[Y Dydd Olaf (albwm)|yma]].''
 
[[Nofel]] [[gwyddonias|wyddonias]] neu ffug-wyddonol gan [[Owain Owain]] yw'r '''''Dydd Olaf''''' a gyhoeddwyd yn [[1976]] gan [[Gwasg Gomer|Wasg Gomer]], Llandysul. Cyfieithwyd y ''Dydd Olaf'' i'r [[Pwyleg]] a thorfolwyd cyfieithiad i'r Saesneg. Mae ar gael ar ffurf [[elyfr]] nid-am-arian a ellir ei lawrlwytho o wefan ''[[Y Twll]]'' (Carl Morris) a [https://gwyddonias.wordpress.com/2014/09/05/bum-yn-mynd-ir-lleuad-ganwaith-mewn-roced-fain-ai-henw-dychymyg-miriam-elin-jones-syn-rhestri-nofelau-ffug-wydd-cymraeg-syn-werth-eu-darllen/ gwefan Slebog].<ref>[https://ytwll.com/2016/05/y-dydd-olaf-owain-owain/ Gwefan ''Y Twll'';] [[Carl Morris]]; adalwyd 16 Gorffennaf 2017.</ref> Yn 2020 fe'i cyfieithwyd hefyd i'r [[Cernyweg|Gernyweg]] gan yr awdur Sam Brown<ref>[https://drive.google.com/file/d/1T-jKc3LGe1NxqCcu1NG9UZj-uOjtavqp/view Copi am ddim o'r fersiwn Cernyweg]</ref>, ac yng Ngorffennaf 2021 cafwyd ailargraffiad Cymraeg gan [[Gwasg y Bwthyn|Wasg y Bwthyn]], wedi i'r llyfr fod allan o brint ers bron i 50 mlynedd.<ref>[https://cantamil.com/products/y-dydd-olaf cantamil.com;] adalwyd 13 Awst 2021.</ref><ref>[https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2057947-dydd-olaf-silffoedd golwg.360.cymru;] Golwg 360; cyfweliad gan Non Tudur; adalwyd 13 Awst 2021</ref>
 
Mae un o'r prif gymeriadau'n berson du, galluog, sy'n anarferol iawn i lyfr o'r cyfnod hwn.
 
Dywedodd y beirniad llenyddol [[Pennar Davies]] am y nofel (gweler y broliant) ''Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg."'' <ref>{{Cite web |url=http://www.owainowain.net/llyfrau/rhestr.htm |title=The Wayback Machine |access-date=2012-02-26 |archive-date=2012-02-26 |archive-url=https://web.archive.org/web/20120226065232/http://www.owainowain.net/llyfrau/rhestr.htm |url-status=live }}</ref> Mewn adolygiad o'r gyfrol yn 2014 dywedodd Miriam Elin Jones, 'I ddweud y gwir, mae rhagymadrodd Pennar Davies i’r nofel hon yn dweud y cwbl. Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu... clasur Cymraeg, heb os.' <ref>[http://gwyddonias.wordpress.com/2014/09/15/bum-yn-mynd-ir-lleuad-ganwaith-mewn-roced-fain-ai-henw-dychymyg-ail-ran-o-restr-top-10-o-lyfrau-ffug-wydd-cymraeg-gan-miriam-elin-jones/] Enw'r wefan: GWYDDONIAS; Teitl: ‘TOP 10′ O LYFRAU FFUG-WYDD CYMRAEG GAN MIRIAM ELIN JONES; accessed 16-10-2014</ref>
 
Mewn cyfweliad gyda Gwenno Saunders a mab Owain, sef [[Robin Llwyd ab Owain]] dywedwyd i'r gwaith gael ei ysgrifennu yn 1967/8 ond na chyhoeddwyd y gwaith tan i'r awdur ddanfon y proflenni at [[Pennar Davies]], wedi methu cael unrhyw wasg i gyhoeddi'r nofel. Yn9 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1976, wedi derbyn broliant Pennar Davies, cyhoeddwyd y nofel.<ref>[http://www.bbc.co.uk/programmes/b07xs7w0 Radio Cymru; 'Sesiynau'r 'Steddfod'.]</ref>
 
==Plot==