Jiwcbocs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B dol
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Music-Box "Rock-Ola" für 60 Single-Schallplatten, um 1960.jpg|bawd|Jiwcbocs Rock-Ola o 1960.]]
Peiriant sydd yn derbyn arian i chwarae [[cerddoriaeth]] wedi ei recordio yw '''jiwcbocs'''<ref>{{dyf GPC |gair=jiwcbocs |dyddiadcyrchiad=10 Mawrth 2021 }}</ref> neu '''sgrechflwch'''.<ref>{{dyf GPC |gair=sgrechflwch |dyddiadcyrchiad=10 Mawrth 2021 }}</ref> Datblygodd y ddyfais hon o'r [[piano peiriannol|pianos peiriannol]] a oedd yn boblogaidd yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Ymddangosodd y jiwcbocsys cyntaf yn [[Unol Daleithiau America]] yn y 1930au, a daethant yn boblogaidd wedi diwedd [[yr Ail Ryfel Byd]] fel modd i gwsmeriaid ddewis recordiau i'w chwarae mewn busnesau yfed a bwyta. Dodasai'r cwsmer ei ddarn arian yn y twll arian cyn pwyso botymau i ddewis y gân. Roedd golwg a dyluniad y ddyfais ei hun yn rhan bwysig o'i hapêl: byddai'r cwsmeriaid yn edmygu nodweddion megis pibelli crynion, colofnau tro i arddangos enwau'r caneuon, goleuadau lliwgar, a chipolwg ar fecanwaith y peiriant wrth iddo newid y recordiau. Buont yn gyffredin iawn mewn [[bar (sefydliad)|barrau]] a [[tafarn|thafarnau]], [[caffi]]s, tai bwyta a siopau soda ar draws yr Unol Daleithiau, a nifer o wledydd eraill, hyd at ddiwedd y 1960au. Ymhlith y prif gwmnïau a gynhyrchai jiwcbocsys oedd [[Wurlitzer]] a Rock-Ola. Dechreuwyd cynhyrchu jiwcbocsys newydd yn niwedd yr 20g i chwarae [[crynoddisg]]iau yn hytrach na'r hen recordiau, ac fel symbol hiraethus o ddiwylliant poblogaidd y 1950au a'r 1960au.<ref>Edward Miller, "Jukeboxes" yn ''Encyclopedia of Contemporary American Culture'', golygwyd gan Gary W. McDonogh, Robert Gregg, a Cindy H. Wong (Llundain: Routledge, 2001), tt. 619–20.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==