Gorsaf reilffordd Pilning: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Rheilffordd Union Bryste a De Cymru
Llinell 4:
 
==Hanes==
Agorwyd gorsaf ym 1863 gan [[Rheilffordd Union Bryste a De Cymru|Reilffordd Union Bryste a De Cymru]], ond symudwyd yr orsaf ym 1886 pan agorwyd [[Twnnel Hafren]]. Roedd gan yr orsaf iard nwyddau mawr, ac roedd gwasanaeth [[Motorail]] i Gymru.
 
Ailagorwyd yr orsaf wreiddiol ar [[Llinell Traeth Hafren|Linell Traeth Hafren]], yn caniatáu cyrhaeddiad teithwyr a nwyddau i [[Ddociau Avonmouth|Dociau Avonmouth]] hyd at 1964.
 
Caewyd yr iard nwyddau ym 1965, a dymchwelwyd adeiladau’r orsaf. Roedd ond 2 drên yn ddyddiol erbyn y 70au, ac ond 2 drên yn wythnosol o 2006 ymlaen.Dymchwelwyd y bont rhwng y platfformau yn 2016, a dim ond trenau i’r dwyrain yn defnyddio’r orsaf erbyn hyn.
 
===Rheilffordd Union Bryste a De Cymru===
Agorwyd gorsaf reilffordd Pilning ar 8 Medi 1863, pan ddechreuodd gwasanaethau ar Reilffordd Union Bryste a De Cymru. Aeth y rheilffordd o [[Gorsaf reilffordd Temple Meads, Bryste|orsaf reilffordd Temple Meads, Bryste]] i [[Gorsaf reilffordd Pier New Passage|orsaf reilffordd Pier New Passage]] ar lannau Hafren, lle oedd fferi dros yr afon i De Cymru.<ref>Bristol Railway Panorama gan Colin Maggs, cyhoeddwyr Llyfrau Millstream</ref>
 
==Disgrifiad==