William Ambrose Bebb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 17:
Yn 1920 ymwelodd â [[Llydaw]] am y tro cyntaf, profiad a drysorodd ac a wnaeth argraff arno am weddill ei oes. Dechreuodd astudio ym [[Prifysgol Rennes|Mhrifysgol Rennes]] ond gadawodd wedi ychydig wythnosau oherwydd prinder adnoddau a chefnogaeth a daliodd y trên i [[Paris|Baris]] lle y bu'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd yn y ''Collège de France'' yn y [[Sorbonne]].<ref>Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008</ref> Arwyddair y ''Collège'' oedd ''Docet Omnia'', sef y [[Lladin]] am "Dysgir popeth", a'i amcan oedd (fel y dywedodd Maurice Merleau-Ponty): "Nid y gwirioneddau ond yr hawl i'w hymchwilio."<ref>''"Non pas des vérités acquises, mais l'idée d'une recherche libre".'' Mae'r frawddeg gyflawn, sydd wedi'i hysgrifennu mewn llythrynnau aur ar wal Neuadd y Coleg yn mynegi: ''"Ce que le Collège de France, depuis sa fondation, est chargé de donner à ses auditeurs, ce ne sont pas des vérités acquises, c'est l'idée d'une recherche libre."'' Cofnodwyd o ddarlith gan Merleau-Ponty yn y ''Collège de France'', yn: Maurice Merleau-Ponty, ''Éloge de la philosophie et autres essais'', Paris: Gallimard, 1989, tud. 13.</ref> Bu Bebb ym Mharis am dair blynedd. Yno hefyd y dylanwadwyd arno gan aelodau o fudiad asgell dde ''[[Action Française|L'Action Française]]'' - gan bobl fel [[Léon Daudet]] a [[Charles Maurras|Charles-Marie-Photius Maurras]].
 
Tra roedd yn darlithio ym Mharis cyhoeddodd erthyglau gwleidyddol yn ''[[Y Llenor (1922-55)|Y Llenor]]'', ''[[Y Geninen]]'', ''[[Y Faner]]'', ''[[Tyst]]'' a'r cylchgrawn ''[[Cymru (cylchgrawn)|Cymru]]'' yn trafod dyfodol y Gymraeg a Chymru, ac mor gynnar ag 1923 dangosodd fod ymreolaeth yn angenrheidiol. Gosododd gynsail i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru) ym Mhwllheli yn Awst 1925. Ym Mehefin 1926 sefydlwyd llais i'r blaid newydd: ''[[Y Ddraig Goch (cylchgrawn)|Y Ddraig Goch]]''. Erthygl gan Bebb oedd ar dudalen cyntaf y rhifyn cyntaf, a Bebb oedd golygydd ar y rhifynnau cynnar; bu'n aelod o'r bwrdd golygyddol hefyd.
 
Gadawodd Ffrainc yn 1925 a dychwelodd i Gymru lle y bu'n darlithio Cymraeg, hanes ac ysgrythur yng [[Coleg Normal, Bangor|Ngholeg y Normal, Bangor]].