Camera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Delwedd:Olympus E-420.jpg|250px|bawd|Camera Olympus E-420 DSLR gyda lens crempog 25mm.]]
[[Delwedd:Studijskifotoaparat.JPG|bawd|Camera stiwdio o'r [[19g]] gyda megin i ffocysu]]
Mae '''camera''' yn cael ei ddefnyddio i gofnodi [[llun]]iau neu ddelweddau ac yn ddibynnol, fel arfer, ar olau. Gall y lluniau hyn fod yn statig neu'n symudol, fel [[fideo]], a chael eu cynhyrchu ar ffilm, ar negydd, ar bapur neu mewn fformat digidol. Gall hefyd gael ei drosglwyddo i gyfrwng arall. Daw'r gair o'r [[Lladin]] am "ystafell dywyll", sef dull cynnar o greu delwedd gyda golau'r haul, sef y ''[[camera obscura]]'', un o gyndeidiau'r camera digidol modern.<ref>{{cite book|last=Batchen|first=Geoffrey|title=Burning with Desire: The Conception of Photography|publisher=[[MIT Press]]|location=Cambridge, MA|pages=78–85|chapter=''Images formed by means of a camera obscura''|isbn=0-262-52259-4|quote=''The camera obscura looms large in traditional historical accounts of photography's invention.'' }}</ref>
 
Gall y camera weithio gyda golau o'r sbectrwm weladwy neu gyda rhannau eraill o'r [[sbectrwm electromagnetig]]. Gan amlaf, mae gan camerâu gafn caeëdig gydag [[agorfa]] (yr ''aperture'', neu dwll bychan) er mwyn i olau fynd i mewn i'r camera ac yna arwyneb recordio er mwyn cipio'r olau.<ref>[http://photography.about.com/od/camerabasics/a/whatisacamera.htm Gwefan About.com; adalwyd 2 Medi 2013.]</ref> Mae ganddo hefyd [[lens]] o flaen yr agorfa i gasglu'r golau a'i ffocysu ar yr arwyneb recordio.