Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
hysbysfwrdd Caerdydd
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Mab y Frenhines [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig]] yw'r '''Tywysog SiarlCharles, [[Rhestr Tywysogion Cymru|Tywysog Cymru]]''' ('''Charles Philip Arthur George Mountbatten-Windsor''') (ganwyd [[14 Tachwedd]] [[1948]]).
 
Cafodd ei eni ym [[Palas Buckingham|Mhalas Buckingham]], gyda'r teitl '''Y Tywysog Siarl o Gaeredin'''.
 
Gelwir ef yng Nghymru yn aml yn Carlo, ar ôl cân enwog [[Dafydd Iwan]] o'r un enw, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru adeg ei arwisgo yn [[1969]].
[[File:Cardiff street today - Prince Charles - Wales Doesn't Need a Prince (cropped).jpg|bawd|chwith|Hysbysfwrdd a godwyn yng nghaerdydd, ac eraill yn Abertawe ac Aberdar, yn datgan nad oes angen tywysog o Loegr yng Nghymru]]
 
Daeth ei [[Arwisgiad Tywysog Cymru|arwisgo]] yn fater gwleidyddol a dadleuol iawn. Roedd twf [[Plaid Cymru]] a [[Cymdeithas yr Iaith|Chymdeithas yr Iaith]] yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd [[George Thomas]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]] ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969. Roedd y genhedlaeth ifanc o genedlaetholwyr yn gweld hyn yn sarhâd ar [[Gymru]] ac ar yr iaith.
 
Bu George Thomas yn ddigon cyfrwys i gael y tywysog yn fyfyriwr yng ngholeg [[Aberystwyth]] am dri mis i ddysgu'r Gymraeg. Ond pan ymwelodd y tywysogCharles ag Eisteddfod yr Urdd a gwneud ei araith yn Gymraeg protestiodd nifer o'r bobl ifanc a cherdded allan. Cynhaliwyd rali enfawr yn erbyn yr arwisgo yng Nghilmeri.
 
== Gwragedd ==