Pedro Castillo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Pedro Castillo"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:49, 25 Medi 2021

Mae José Pedro Castillo Terrones, a elwir yn Pedro Castillo, yn undebwr llafur a gwladweinydd o Beriw, a anwyd ym 1969 yn Puña, talaith Chota, Periw. Mae wedi bod yn Arlywydd Gweriniaeth Periw ers 28 Gorffennaf 2021.

Roedd ei fagwraeth yn un dlawd, wledig. Mae'n athro wrth ei alwedigaeth ac roedd yn un o arweinwyr streic athrawon cenedlaethol wnaeth bara bron i dri mis yn 2017.

Yn ystod etholiad arlywyddol Periw yn 2021, fo oedd ymgeisydd y blaid Perú Libre, plaid sy'n arddel Marcsiaeth-Leniniaeth, er nad yw'n aelod o'r blaid. Yn ail rownd yr etholiad, roedd benben â Keiko Fujimori, poblyddwr asgell dde. Etholwyd Castillo gyda 50.1% o'r bleidlais, a hynny wedi 6 wythnos o ail-gyfri.

Mae'n arddel safbwyntiau'r chwith radical o ran yr economi a pholisi tramor, ond safbwyntiau ceidwadol o ran materion cymdeithasol.