Cyflwr cyfarchol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Modd cyfarchol.jpg|300px|de|bawd|Arwydd gyda'r modd cyfarchol ar wal gegin ym Mhrifysgol Abertystwyth. Noder fod 'myfyrwyr' wedi ei dreiglo oherwydd y cyflwr cyfarchol er mwyn tanlinellu pwysigrwydd y neges]]
Y '''Cyflwr Cyfarchol''' (weithiau '''modd cyfarchol''') yw'r term gramadegol ar yr arfer o gryfhau neu dynnu sylw arbennig at berson, anifail neu wrthrych o fewn brawddeg; gwneir hyn yn y Gymraeg drwy dreiglo. Roedd yn arfer yn yr [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] ac yn [[Lladin]]; bellach, fe arddelir y cyflwr cyfarchol yn y Gymraeg a'r [[ieithoedd Celteg|ieithoedd Celtaidd]] (heblaw Llydaweg), yn yr ieithoedd Slafonig (heblaw [[Rwsieg]]) ac yn y [[Lithwaneg]] a'r [[Latfieg]]. Mae wedi ei golli yn yr ieithoedd Germanaidd gan gynnwys y Saesneg.
 
==Cyflwr Cyfarchol mewn ieithoedd Celtaidd==
Llinell 6:
Yr enghraifft amlwg, syml yn y Gymraeg yw pan fydd siaradwr yn treiglo "boneddigion" i ''foneddigion''<ref>https://ybont.org/pluginfile.php/3370/mod_resource/content/5/Uned%203.pdf{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref> ar ddechrau brawddeg er mwyn denu sylw'r gynulleidfa; neu'r athro yn gweiddi "blant" ar ddisgyblion er mwyn cadw trefn. Ceir yn y gân 'O Gymru' gan [[Eleri Llwyd]].<ref>https://www.youtube.com/watch?v=sZY6IgiPYPQ</ref>
 
Efallai mai' un o'r enghreifftiau amlycaf o ddefnydd o'r cyflwr cyfarchiol a hynny'n treiglo enw person (sy'n anghyffredin bellach yn y Gymraeg) yw'r cwpled o gerdd 'Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) gan [[Gerallt Lloyd Owen]] lle treiglir yr enw Llywelyn:<ref>https://www.reddit.com/r/PoetryWales/comments/2g0dmn/fy_ngwlad_by_gerallt_lloyd_owen/</ref>
:Wylit, wylit, Lywelyn,
:Wylit waed pe gwelit hyn