Hazara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B iaith
Llinell 1:
[[File:Hazara man, Khulm.jpg|thumb|300px|Dyna Hazara, Khulm, 2007]]
[[File:Figure 14- Ethnic Map of Afghanistan (8466085358).jpg|thumb|300px|Map Ethnigrwydd Afghanistan (2013)]]
Grŵp ethnig sydd yn frodorol i ardal fynyddig yng nghanolbarth [[Affganistan]] o'r enw [[Hazarajat]] yw'r '''Hazara'''. Maent yn siarad ffurf ddwyreiniol ar yr iaith [[Perseg|Berseg]] o'r enw Hazaragi a nodweddir gan fenthyceiriau [[ieithoedd Mongolaidd|Mongolaidd]] a [[ieithoedd Tyrcig|Thyrcig]]. Mae eieu Perseghiaith yn [[cyd-ddealladwy|gyd-ddealladwy]] â [[Dari]], un o ddwy iaith swyddogol Afghanistan.<ref name="Attitudes Towards Hazaragi">{{cite web|url=http://opensiuc.lib.siu.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=1224&context=theses|title=Attitudes towards Hazaragi|access-date=June 5, 2014 |pages=1–2}}</ref><ref name="OCLC 401634">{{cite book |author=Schurmann, Franz |year=1962 |title=The Mongols of Afghanistan: An Ethnography of the Moghôls and Related Peoples of Afghanistan |publisher=Mouton |location=[[The Hague, Netherlands]] |page=17 |oclc=401634|author-link=Franz Schurmann }}</ref><ref name="hazara-4">{{cite encyclopedia |first=Charles M. |last=Kieffer |encyclopedia=Encyclopædia Iranica |title=HAZĀRA |trans-title=iv. Hazāragi dialect |url=http://iranicaonline.org/articles/hazara-4 |access-date=August 22, 2017}}</ref>
 
[[Mwslim]]iaid [[Shïa]] ydynt o draddodiad [[y Deuddeg Imam]] yn bennaf, ond mae rhai hefyd yn [[Ismailïaid]] neu yn Fwslimiaid [[Swnni]].<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/Hazara |teitl=Hazara |dyddiadcyrchiad=6 Medi 2021 }}</ref> Mae niferoedd ohonynt hefyd yn byw yn [[Iran]] ac yn rhanbarth [[Baluchistan]] ym [[Pacistan|Mhacistan]].
Llinell 7:
Mae'n bosib iddynt hanu o'r [[Mongolwyr]] a orchfygodd [[Khwarazmia]] yn y 13g, ac mae ganddynt olwg gorfforol yn debyg i bobloedd Fongolig. Felly, er iddynt siarad [[ieithoedd Iranaidd|iaith Iranaidd]], caiff yr Hazara ei ystyried yn grŵp ethnig [[pobloedd Dyrcig|Tyrcig]] neu Dyrco-Fongolaidd. Ceir cofnodion ohonynt ers [[Ymerodraeth y Mughal|Mughal]] yn yr 16g. Oherwydd safle anghysbell Hazarajat buont yn lled-annibynnol nes y 1890au, pryd cawsant eu gorchfygu gan fyddinoedd [[Abdur Rahman Khan]], Emir Affganistan. Ers hynny maent wedi dioddef rhagfarn, erledigaeth, [[pobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol|dadleoli mewnol]], ac alltudiaeth, yn enwedig dan lywodraeth [[y Taleban]] yn y 1990au.
 
Trigir yrMae'r Hazara yn byw mewn tai a wneir o gerrig neu laid gyda thoeau gwastad wedi eu hadeiladu o amgylch libart, mewn cymunedau caerog ar bennau'r dyffrynnoedd culion. Ar lawr y dyffrynnoedd, maent yn tyfu cnydau gan gynnwys [[barlys]], [[gwenith]], [[codlys]]iau, [[ciwcymbr]]au, a [[ffrwyth]]au. Maent hefyd yn rhoipori [[dafad|defaid]] i bori ar y mynyddoedd.<ref name=Britannica/>
 
== Cyfeiriadau ==