Syndicaliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Baginski, Was will der Syndikalismus?.jpg|thumb|300px|Clawr "Was will der Syndikalismus?" ("Beth mae Syndicaliaeth eisiau?"), pamffled a ysgrifenwyd gan [[Max Baginski]] a'i hargraffu gan Syndicalwyr Almaenig]]
Tueddiad neu ideoleg o fewn y [[mudiad llafur]] yw '''syndicaliaeth''' sydd yn pleidio [[gweithredu uniongyrchol]] gan y [[dosbarth gweithiol]] er mwyn trosglwyddo perchnogaeth a rheolaeth ar foddion cynhyrchu a dosbarthu i'r [[undeb llafur|undebau llafur]].<ref>{{dyf GPC |gair=syndicaliaeth |dyddiadcyrchiad=10 Medi 2021 }}</ref> Ei nod felly yw ysgogi [[rhyfel dosbarth]] a dymchwel [[cyfalafiaeth|y drefn gyfalafol]] sydd ohoni, gan gynnwys [[y wladwriaeth]], i ennill [[rheolaeth y gweithwyr|rheolaeth gyfan gan y gweithwyr]], drwy ddulliau [[chwyldro]]adol yn hytrach na diwygiadau neu'r broses seneddol. Mae syniadaeth syndicalaidd yn cyfuno damcaniaethau [[Marcsiaeth|Marcsaidd]] ac [[anarchiaeth|anarchaidd]], ac yn gwrthod yr agwedd [[totalitariaeth|dotalitaraidd]] ar [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]]. Mewn cyferbyniad â [[sosialaeth|sosialwyr]] eraill, canolbwyntia syndicalwyr ar drefnu'r dosbarth gweithiol drwy undebau llafur yn hytrach na [[plaid wleidyddol|phleidiau gwleidyddol]].