Chwyldro Tiwnisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 5 as dead.) #IABot (v2.0.8
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8.1
Llinell 82:
Cafwyd adroddiadau am brotestiadau a gwrthdaro mewn sawl dinas a thref yn ystod y dydd, yn cynnwys Tiwnis a'i maesdrefi, [[Béja]]<ref>[https://archive.is/20120707075455/24sur24.posterous.com/video-beja-north-today-sidibouzid Fideo: Gwrthdaro yn Béja 12.01.11.]. [[Al-Nawaat]] 13 Ionawr 2011.</ref>, [[Sousse]], [[Hammamet]] [[Nabeul]] a phenrhyn [[Cap Bon]], [[Gabes]] a [[Douz]]. Cyrhaeddodd y protestiadau yn Tunus ganol y ddinas lle saethwyd nwy dagrau at gannoedd o brotestwyr yn y Place de France, o flaen y ''medina''.<ref name="LF affrontements">[http://www.lesoir.be/actualite/monde/2011-01-12/de-violents-affrontements-dans-le-centre-de-tunis-814140.php "De violents affrontements dans le centre de Tunis". 12.01.11.]{{Dolen marw|date=August 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} ''Le Soir''. 12 Ionawr 2011.</ref> Adroddwyd "prynu mewn panig" yn y siopau mawr gyda stociau o fwyd cyffredin yn isel a llawer o siopau eraill wedi cau. Roedd llawer o filwyr ar y strydoedd ond roedd y gwrthdaro rhwng yr heddlu a'r protestwyr.<ref>[http://www.tsr.ch/info/suisse/2892081-tunisie-l-armee-se-deploie-dans-la-capitale.html "L'armee se deploie dans la capital". 12.01.11.] tsr.ch. 12 Ionawr 2011</ref> Yn [[Hammamet]] bu gwrthdaro: llosgwyd gorsaf yr heddlu, lladdwyd tri person yn cynnwys merch ac anafwyd nifer.<ref>[http://www.nytimes.com/2011/01/14/world/africa/14tunisia.html?_r=1 "Tunisian Rioters Overwhelm Police Near Capital"], ''[[The New York Times]]'', 13 Ionawr 2011.</ref> Cafwyd gwrthdaro mawr yn [[Nabeul]] hefyd. Yn [[Douz]] yn y De, saethwyd 4 neu 5 o brotestwyr heddychlon gan ''snipers'' yr heddlu; roedd y lladdedgion yn cynnwys Hatem Ben Taher, athro coleg adnabyddus o'r ddinas.<ref>[https://archive.is/20120709164256/24sur24.posterous.com/video-graphic-today-in-douz-south-protester-s Fideo: Saethu yn Douz 12.01.11.] [[Al-Nawaat]] 12 Ionawr 2011. ''RHYBUDD: FIDEO GRAFFIG''</ref> Roedd protestio yn [[Gabes]] hefyd gyda'r heddlu yn saethu nwy dagrau. Yn [[Sfax]] saethwyd bachgen 14 oed yn farw gan yr heddlu mewn protest swnllyd ond heddychlon.<ref>[https://archive.is/20120707032533/24sur24.posterous.com/sidibouzid-14-year-old-child-deadly-shot-in-s Fideo: Saethu bachgen 14 oed yn Sfax 12.01.11.]. [[Al-Nawaat]] 12 Ionawr 2011. ''RHYBUDD: FIDEO GRAFFIG''</ref> Symudodd y Fyddin i mewn i [[Sousse]] ar ddiwrnod o wrthdaro a gydag adroddiadau fod grwpiau o gefnogwyr plaid Ben Ali yn creu trefysg er mwyn pardduo'r gwrthwynebiad a'r heddlu heb ymyrryd. Cafwyd tystiolaeth bod pethau tebyg yn digwydd mewn dinasoedd eraill hefyd.
 
Gyda'r nos daeth y cyrffiw mewn grym yn Nhiwnis, Sousse a rhai dinasoedd eraill. Cafwyd gwrthdaro ffyrnig yn y strydoedd ar draws Tiwnis a'i maesdrefi a barodd dros nos i oriau mân y bore. Bu ymladd ar y stryd, saethu a therfysg yn [[Bizerte]]. Roedd adroddiadau am brotestio a gwrthdaro gyda'r nos yn sawl dinas arall hefyd. Erbyn diwedd y dydd, amcangyfrifwyd bod 14 o brotestwyr wedi cael eu lladd gan yr heddlu. Cafwyd sawl adroddiad yn dweud bod yr heddlu yn ildio i'r protestwyr yn [[Kasserine]] a [[Jebiniana]] neu wedi cilio.<ref>[http://www.uruknet.info/?p=m73828&hd=&size=1&l=e Fideo:Heddlu yn ildio i brotestwyr yn Kasserine. 12.01.11.] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20120916102345/http://www.uruknet.info/?p=m73828&hd=&size=1&l=e |date=2012-09-16 }} [[Al-Nawaat]] 12 Ionawr 2011.</ref><ref>[https://archive.is/20120712225731/24sur24.posterous.com/tunisia-jebenianas-police-surrender Fideo: Heddlu yn ildio yn Jenianas. 12.01.11.] [[Al-Nawaat]] 12 Ionawr 2011.</ref>
 
;13 Ionawr