Gweriniaeth yr Iseldiroedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn ailgyfeirio at Yr Iseldiroedd
Tagiau: Ailgyfeiriad newydd
 
#wici365
Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
#ail-cyfeirio [[Yr Iseldiroedd]]
[[Gweriniaeth]] [[ffederal]] yn [[y Gwledydd Isel]] a fodolai o 1588 i 1795 oedd '''Gweriniaeth yr Iseldiroedd''' ({{iaith-nl|Republiek der Nederlanden}}) neu '''Weriniaeth Unol Daleithiau yr Iseldiroedd''' (''Republiek der Verenigde Nederlanden''), yn swyddogol '''Gweriniaeth y Saith Iseldir Unedig''' (''Republiek der Zeven Verenigde Nederlanden''), a oedd yn cyfateb yn fras i diriogaeth gyfoes [[yr Iseldiroedd]].<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/place/Dutch-Republic |teitl=Dutch Republic |dyddiadcyrchiad=11 Hydref 2021 }}</ref> Hon oedd [[cenedl-wladwriaeth]] [[annibyniaeth|annibynnol]] gyntaf yr [[Iseldirwyr]].
 
Sefydlwyd y weriniaeth gan y saith talaith yng ngogledd [[yr Iseldiroedd Sbaenaidd]] a wrthryfeloedd yn erbyn tra-arglwyddiaeth [[Ymerodraeth Sbaen]] yng [[Gwrthryfel yr Iseldiroedd|Ngwrthryfel yr Iseldiroedd]] (1566–1648). Ffurfiwyd cynghrair ym 1579 trwy Undeb Utrecht gan arglwyddiaethau Groningen, Friesland, Utrecht, ac Overijssel, iarllaethau Holand a Zeeland, a Dugiaeth Guelders. Datganwyd annibyniaeth ganddynt trwy'r Ddeddf Ymwadiad ym 1581, a ffurfiwyd y ffederasiwn dan arlywyddiaeth ''stadtholder'' ym 1588.
 
Yr 17g oedd [[Oes Aur yr Iseldiroedd]], ac adeiladwyd [[Ymerodraeth yr Iseldiroedd|ymerodraeth drefedigaethol]] gan forwyr a masnachwyr Iseldiraidd. Dirywiodd grym y weriniaeth yn ystod y 18g, ac ym 1795 cwympodd yn sgil [[y Chwyldro Batafaidd]] a fe'i olynwyd gan y Weriniaeth Fatafaidd.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:16eg ganrif yn yr Iseldiroedd]]
[[Categori:17eg ganrif yn yr Iseldiroedd]]
[[Categori:18fed ganrif yn yr Iseldiroedd]]
[[Categori:Cyn-weriniaethau|Iseldiroedd, Yr]]
[[Categori:Cyn-wladwriaethau Ewrop]]
[[Categori:Gwladwriaethau a thiriogaethau a sefydlwyd ym 1588]]
[[Categori:Gwladwriaethau a thiriogaethau a ddadsefydlwyd ym 1795]]
[[Categori:Hanes gwleidyddol yr Iseldiroedd]]