Evan Evans (Evans Bach Nantyglo): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Llinell 10:
Wedi adferiad ei iechyd symudodd Evans yn ôl i [[Gwent|Went]] gan ail agor ei ysgol yn y [[Goetre Fawr]], lle fu tua dwy flynedd cyn symud ei ysgol i [[Nant-y-glo]]. Ychydig wedi symud i Nant-y-glo derbyniwyd Evans yn aelod o Gymdeithasfa [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid Calfinaidd]] [[Sir Fynwy]] ym 1830.
 
Roedd Evans yn gefnogwr brwd i fudiad yr ysgol Sul ac i roi addysg ddyddiol i blant, gan olygu'r cyhoeddiad misol, ''Cyfaill Plant'', o 1835. Ar ôl 1830 daeth yn un oedd yn llwyr ymwrthod a'r ddiod gadarn ac roedd yn eiriolwr pwerus dros yr achos [[dirwest]] gan ddioddef erledigaeth gan rai oherwydd ei farn.<ref>[[doi:10.1093/ref:odnb/8956|Evans, Evan (called Evans Bach Nantyglo) (1804-1886), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography.]] Adalwyd 6 Mehefin 2020</ref>
 
Roedd bod yn aelod o Gymdeithasfa yn caniatáu i bregethwr mynd ar deithiau pregethu y tu allan i'w fro ei hun. Galliasai teithiau pregethu bod yn gostus ofnadwy. Roedd rhaid talu am gadw a bwydo [[ceffyl]] ac, oni bai bod dyn ag incwm annibynnol neu'n eiddo ar fusnes teuluol megis fferm neu siop, roedd rhaid cael arian i dalu am gadw teulu. Roedd disgwyl i gefnogwyr, capeli a chymdeithasfaoedd yr ardaloedd ymwelodd pregethwr iddi ddigolledu'r pregethwyr. Oherwydd nad oedd gan Evans incwm neu fodd i godi arian yn annibynnol tra ar daith, bu anghydfod aml rhyngddo a chynrychiolwyr y capeli am faint ei dreuliau, gyda rhai yn ei gyhuddo o dwyllo wrth wneud hawliadau am ddigolledon.<ref>[https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3532194/3532198/4/ Y Tyst a'r Dydd 19 Tachwedd 1886 - Ymyl y Ffordd - Y Parch Evan Evans, Nantyglo] adalwyd 7 Mehefin 2020</ref> Bu hefyd cyhuddiadau yn ei erbyn o gam drin eiddo'r gymdeithasfa at ei fuddion ei hun.<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2267394/2399212/13#?xywh=-571%2C840%2C3330%2C2164 Seren Gomer Cyf. XXXII - Rhif. 403 - Ebrill 1849 EVAN EVANS, NANTYGLO, A'R TREFNYDDION CALFINAIDD (llythyr gan Evans yn amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau)] adalwyd 7 Mehefin 2020</ref>