Griffith Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 43:
Yn angof, i bob pwrpas, i’r sefydliad milfeddygol, bu’n darlithio ar Hylendid Milfeddygol yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]] hyd at [[1910]]. Fe’i “ail darganfuwyd” yn [[1916]] pan gyfeiriwyd ato gan Syr William Osler<ref>{{Cite web|url=https://www.mcgill.ca/about/history/osler|title=Sir William Osler (1849-1919)|date=|access-date=3/2/2019|website=Prifysgol McGill|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>, Cadair Regiws Meddygaeth Rhydychen, yn ystod cyfarfod i gefnogi sefydlu Ysgol Feddygol Genedlaethol i Gymru. Oherwydd hyn fe’i hanrhydeddwyd gan Fedal Mary Kingsley<ref>{{Cite web|url=https://www.lstmed.ac.uk/about/history/mary-kingsley-medal|title=Mary Kingsley Medal|date=|access-date=3/2/2019|website=LSTM|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>, Ysgol Clefydau Trofannol Lerpwl, Fedal Coffa John Henry Steel, Ysgol Frenhinol y Milfeddygon a DSc er anrhydedd gan [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]]. 
 
Yn ystod y cyfnod hir yma o ymddeoliad bun ymwneud yn egnïol a gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol. Roedd [[dirwest]] yn bwysig iawn iddo, ond hefyd masnach rydd, hunanlywodraeth i’r Iwerddon, crefydd a phleidlais i ferched. Bu’n edmygydd o’r [[David Lloyd George]] ifanc, ac arhosodd hwnnw ar sawl achlysur ym Mrynkynallt. Ar un achlysur yn ystod [[Ail Ryfel y Boer|Rhyfel y Böer]], gyda Griffith a Katie yn eistedd ar y llwyfan, ceisiodd Lloyd George dadlau ochr y Böer i gynulleidfa mewn capel ym Mangor. Fe’i croesawyd gan gawod o wyau pydredig a thomatos ac fe’i hebryngwyd trwy ddrws cefn ac ar hyd llwybr cefn i Brynkynallt gerllaw yng nghwmni Griffith, Katie a phlismon. (Ym mhapurau’r teulu, ac ar siaced lwch coifiant Jean Ware<ref name=":0" />) mae telegram Lloyd George, o [[Cricieth|Gricieth]], yn llongyfarch Griffith ar gyrraedd ei ben-blwydd 100 yn [[1935]].)
 
Yn ôl Jane Wear, ynghanol ei brysurdeb cymdeithasegol roedd ei gampweithiau milfeddygol yn angof i’w gymdeithas ym Mangor<ref name=":0" />. Ond fe’i hurddwyd a Rhyddfraint Dinas Bangor yn [[1931]].