Dirwest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
 
== Hanes yr achos ==
Mae'r syniad o bobl yn ymwrthod ag alcohol am resymau moesol yn hen un. Mae'r [[Yr Hen Destament|Hen Destament]] yn sôn am lwyth y Rechabiaid, cenedl oedd yn gwrthod yfed [[gwin]] a diodydd tebyg. <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=Jeremiah+35&version=BWM Jeremia pennod 35 (Beibl William Morgan)].</ref> Un o lysenwau [[Dewi Sant]] oedd Dewi Ddyfrwr, gan nad oedd ef na'r gymdeithas o fynachod yr oedd yn eu harwain yn yfed diodydd alcoholig. <ref>[https://www.bbc.co.uk/cymru/crefydd/safle/lleoedd/pages/tyddewi.shtml BBC Cymru Tyddewi] adalwyd 12 Hydref 2021</ref> Mae [[Bwdhaeth|Bwdistiaid]] ac aelodau o'r dosbarth [[Hindŵaeth|Hindŵ]] Brahman wedi ymwrthod ag alcohol ers y 6g OC a dilynwyr selocaf [[Islam]] wedi ymwrthod ers y 7g OC <ref>[https://www.britannica.com/topic/alcohol-consumption/Alcohol-and-society Britannica ''Alcohol and Society, History of the use of alcohol, in early societies''] adalwyd 12 Hydref 2021</ref>
[[Delwedd:William Hogarth - Gin Lane.jpg|alt=Gin Lane, Hogarth|chwith|bawd|Gin Lane, Hogarth]]
Erbyn canol y 18g roedd bodolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig wedi sicrhau bod digonedd o siwgr i wneud [[Rym|rỳm]] a grawn i wneud [[wisgi]] a [[jin]] ar raddfa fawr a thrwy hynny bod yn ddigon rad i'r tlawd yfed [[Gwirod|gwirodydd]] am y tro cyntaf. <ref>Rorabaugh, W.J. (1981). The Alcohol Republic: An American Tradition. Oxford University Press. pp. 20-21. ISBN 978-0-1950-2990-1.</ref> Roedd diwygwyr cymdeithasol yn ystyried bod lefelau uchel o or-yfed alcohol a meddwdod yn berygl i les cymdeithas, gan arwain at broblemau cymdeithasol fel tlodi, esgeuluso plant, anfoesoldeb a dirywiad economaidd. Roedd ''gin craze'' yn rhai o ddinasoedd [[Lloegr]], a chafodd ei ddarlunio yng nghartŵn enwog [[William Hogarth]], ''Gin Lane''. <ref>[https://www.bbc.com/culture/article/20150610-london-city-of-sin Hogarth’s London: Gin Lane and Beer Street} adalwyd 12 Hydref 2021</ref> Daeth y dosbarth canol yn fwyfwy beirniadol o feddwdod eang ymhlith y dosbarthiadau is. Daeth yfed jin yn destun dadl genedlaethol feirniadol. <ref>[Yeomans, Henry (2014). Alcohol and Moral Regulation: Public Attitudes, Spirited Measures and Victorian Hangovers. Policy Press. p. 37. ISBN 9781447309932.</ref> Ym 1743, cyhoeddodd [[John Wesley]], sylfaenydd [[Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr|yr Eglwys Fethodistaidd]], "fod prynu, gwerthu ac yfed gwirod, oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol, yn ddrygau i'w hosgoi". <ref>Williams, William Henry (1984). The Garden of American Methodism: The Delmarva Peninsula, 1769-1820. Peninsula Conference of the United Methodist Church. p. 151. ISBN 9780842022279.</ref> Roedd pryderon tebyg i'w cael yn y trefedigaethau Americanaidd ac yn parhau yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] newydd. Ym 1784 cyhoeddodd Dr Benjamin Rush papur am effeithiau gwirodydd cryf ar iechyd. ''An Inquiry Into the Effects of Ardent Spirits Upon the Human Body and Mind'', a farnodd bod gormodedd o alcohol yn niweidiol i iechyd corfforol a seicolegol. Wedi ei ddylanwadu gan ymchwiliad Dr. Rush, ffurfiodd tua 200 o ffermwyr mewn cymuned yn [[Connecticut]] gymdeithas ddirwestol ym 1789 i ymgyrchu am wahardd gwneud wisgi yn y dalaith. Ffurfiwyd cymdeithasau tebyg yn [[Virginia]] ym 1800, a [[Efrog Newydd (talaith)|Thalaith Efrog Newydd]] ym 1808. Dros y degawd nesaf, ffurfiwyd sefydliadau dirwest eraill mewn wyth talaith, Roedd y mudiad ifanc yn caniatáu yfed cymedrol ac yn ymgyrchu ar sail iechyd ac ymddygiad cymdeithasol.