Dirwest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 40:
Erbyn y 1840au roedd yr achos dirwest wedi troi i fod yn ymgyrch torfol. Cynhaliwyd gorymdeithiau trwy drefi yn cael eu harwain gan fandiau dirwest. Ysgrifennodd cerddorion fel [[William Owen (Prysgol)]]<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4443703|title=WILLIAM OWEN PRYSGOL WEDI MARW - Y Genedl Gymreig|date=1893-07-25|accessdate=2021-10-11|publisher=Thomas Jones}}</ref> anthemau dirwest i ganu wrth orymdeithio. Cynhaliwyd cymanfaoedd a ralïau cyhoeddus dirwestol ym mhrif drefi Cymru gyda miloedd yn eu mynychu. Ym 1848 sefydlwyd cymdeithas dirwest i ieuenctid, y ''Gobeithlu (Band of Hope)'', i annog ieuenctid i beidio dechrau yfed ac i roi pwysau ar eu rhieni i ddod yn ddirwestwyr. Daeth mynychu cyfarfodydd canol wythnos y Gobeithlu, yn gymaint o arfer a mynychu'r [[Ysgol Sul]] ar y Saboth i blant o deuluoedd crefyddol.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3072284|title=Y GOBEITHLU (THE BAND OF HOPE) - The Merthyr Telegraph and General Advertiser for the Iron Districts of South Wales|date=1859-02-19|accessdate=2021-10-11|publisher=Peter Williams}}</ref>
[[Delwedd:J. R. Kilsby Jones Ap Caledfryn.jpg|bawd|Kilsby Jones]]
Rhoddodd diwygiad 1859 hwb sylweddol i'r achos dirwest gan fod disgwyl i ddychweledigion y diwygiad i broffesu dirwest.<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2192687/2201395/19#?xywh=-737%2C-205%2C3479%2C2294 Y diwygiwr Mai 1859 tud 152 "Y Diwigiad"] adalwyd 12 Hydref 2021</ref> O ddechrau'r 1860au i ddiwedd y 1960au, byddai disgwyl i bob ymgeisydd am y [[Gweinidog yr Efengyl|weinidogaeth]], pob pregethwr lleyg a phob swyddog yn y capeli Cymreig i fod yn ddirwestwyr. Er hynny nid oedd pob un o'r hen do o weinidogion yn cefnogi achos dirwest. Roedd [[William Williams (Caledfryn)|Caledfryn]] <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1085539/1088867/15#?xywh=-652%2C-164%2C4174%2C2753 Y Cofiadur Rhif 621 Mai 1998 Tudalen: 16 Annibynwyr dan yr ordd] adalwyd 12 Hydref 2021</ref> a [[Kilsby Jones]]<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1183036/1184487/9#?xywh=-368%2C-41%2C3478%2C2293 Cristion 591 Awst 1993Tudalen: 10 "Kilsby"] adalwyd 12 Hydref 2021</ref> yn feirniadol iawn o'r achos. Rhan o'u gwrthwynebiad oedd bod yna berygl i'r eglwys anghofio am ei genhadaeth i bregethu [[Crist]] trwy wario gormod o'i amser yn pregethu am bynciau cymdeithasol. I raddau, profwyd eu pryderon i fod yn gywir. Erbyn troad y 19g a'r 20g roedd drodd Efengyl Gras yn ddim byd mwy nag Efengyl Gymdeithasol yn y rhan fwyaf o'r capeli Cymraeg. Ond "er gwaethaf y sylw a gawsai materion cymdeithasol mewn cyhoeddiadau a chynadleddau Cristnogol, (roedd) yr Anghydffurfwyr Cymraeg yn bendant wedi methu â'u troi'n fesurau ymarferol"<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1085539/1088904/23#?xywh=129%2C1845%2C2120%2C1907 Y Cofiadur .Rhif 631 Mai 1999Tudalen: 24 "Codi muriau dinas Duw"] adalwyd 12 Hydref 2021</ref> Gyda chymaint o sefydliadau amgen, mwy ymarferol, at greu newid cymdeithasol dechreuodd y dirywiad yn y niferoedd yn ymaelodi a mynychu capeli Cymru. A gan fod achos dirwest yng nghlwm ag achos Anghydffurfiaeth methodd i barhau fel achos annibynnol i Anghydffurfiaeth. Wrth i'r capel dod yn llai pwysig i fywyd cymdeithasol Cymru daeth dirwest hefyd yn llai pwysig.
 
Mae dirwestwyr a chymdeithasau dirwest yn dal i fodoli yng Nghymru heddiw, ond mae eu dylanwad bellach yn nesaf peth i ddim o gymharu â'u grym o ganol y 19g hyd ganol y 20g.