Rosina Davies (efengyles): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 14:
Tua 1881, yng nghwmni Mary Charlotte Phillips, cychwynnodd ar y cyntaf o gannoedd o deithiau pregethu trwy Gymru gan ddod yn un o Efengylwyr a chantorion crefyddol mwyaf adnabyddus y genedl.
 
I wella ei llais ymunodd a'r [[Yr Academi Gerdd Frenhinol|Royal Academy of Music]], Llundain ar gwrs byr ym 1886. Wedi ymadael a'r coleg ym mhen blwyddyn aeth ar daith ym 1887 lle fu hi'n pregethu a chanu mewn oedfaon yn ddyddiol am gyfnod o ddeg mis ond cymerodd y daith flinedig ei doll a chafodd ei gorfodi i orffwys am sbel i adfer ei hiechyd.
 
Yn 1893, derbyniodd Davies wahoddiad i fynd ar daith pymtheng mis i eglwysi Cymreig [[Unol Daleithiau America]] gan ymwelwyd â chapeli o [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] i [[Califfornia]]<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3541459|title=MISS ROSINA DAVIES - Y Drych|date=1893-07-20|accessdate=2015-12-11|publisher=Mather Jones}}</ref>. Yn ystod ei arhosiad cymerodd rhan yn [[Eisteddfod Ffair y Byd]], [[Chicago]]. Ym 1897 aeth ar ail daith i'r Unol Daleithiau, ond cafodd yr ymweliad ei gwtogi ar sail iechyd.