Dyddiaduron Owen Hughes, Tregwehelyth, Bodedern, Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
Llinell 17:
Roedd Owen Hughes yn ddyn prysur dros ben. I ddechrau gweithiai mewn siop ddrygist yn [[Llannerchymedd]] tra’n byw ym Mhen y Bryn. Teimlai hynny’n gaethiwed arno ac yntau ag anian bod allan yn yr awyr iach. Dechreuodd ei yrfa amaethyddol drwy brynu a gwerthu anifeiliaid hwnt ag yma gan rentu rhai caeau. Yna
llwyddodd i rentu Wilpol pan 26 oed a thrwy hynny allu rhentu peth tir ynghlwm â’r tyddyn. Crefydd ac astudio’r Beibl oedd ei brif ddiddordeb a darllenai esboniadau a chofiannau pregethwyr di-ben draw.
Mynychodd ysgol Mr Davies lle bu’n astudio Groeg, Lladin, Saesneg ac [[Euclid]]. Roedd hyn yn llwyr allan o gysylltiad âg ymarferoldeb amaethu yn Sir Fôn, ond bod yn bregethwr oedd ei uchelgais a materion ysbrydol ei wir ddiddordeb. Os na fyddai’n pregethu byddai’n gwrando’n ddeallus ar bregethwyr eraill a chanddo farn hynod dreiddgar ar eu cenadwri. Ef a arweiniai y seiadau a’r cyfarfodydd gweddi yn y Capel Bach, gan gychwyn yn amal gyda’r geiriau o ddiolch i’r Arglwydd “fod ein llinynnau wedi disgyn ar leoedd mor hyfryd” ond yn ddiffael byddai’n rhaid cofnodi mai ychydig oedd yn bresennol. “Cynulliad bychan” oedd hi fel arfer. Cenadwri arall ganddo oedd [[dirwest]] a chyfarfodydd [[dirwestol]]. Mae’n cofnodi iddo dorri un truan allan o’r seiat oherwydd medd-dod.
Symudodd i’r Wilpol yn 26 oed. Peth tir yno. Dechrau gyda’r tyddyn ar rent wrth gwrs. Daliodd ati i borthmona a phrynu a gwerthu anifeiliaid. Cerdded yr anifeiliaid o le i le a mynychu ffeiriau. Symudodd i Brynteiran ac yna i Tregwehelyth, fferm ar rent eto, a dyna ble treuliodd y rhan fwyaf o’i oes.
Ceisiai ei addysgu ei hun gan fanteisio ar bob cyfle. Dihangodd i Ysgol Haf yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth i drafod a chyd-rannu egwyddorion crefyddol er fod hynny ynghanol tymor cynhaeaf gwair. Bu Dyddiaduron Cyflawn Gwyn Ddewi 2016.doc 16/07/2019 tud .2 yng ngholeg Bangor wedyn yn dilyn cwrs ar fesur tir ac amaethyddiaeth, lle dysgai ychydig gemeg a gwybodaeth am wrteithio a gwella’r tir.