Ymgyrch ymosodol y Taliban (2021): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 9:
Daeth ymgyrchoedd milwrol [[ISAF]] yn Affganistan i ben yn 2014, a lansiwyd ôl-ymgyrch gan NATO i hyfforddi a chynghori'r lluoedd Affganaidd. Pum mlynedd yn ddiweddarach, bu grym y Taleban wedi adfer gymaint iddynt orfodi [[Unol Daleithiau America]] i arwyddo cytundeb heddwch ac i encilio'u holl luoedd o'r wlad, a daeth ôl-ymgyrch NATO yn Affganistan i ben yn 2021.
 
Dechreuodd yr Unol Daleithiau gyflafareddu â'r Taleban yn 2018, wedi eu cynorthwyo gan ddiplomyddion o [[Sawdi Arabia]], [[Pacistan]], a'r [[Emiradau Arabaidd Unedig]], yr unig dair gwlad i gynnal cysylltiadau â'r ddwy ochr. Canolbwyntiodd y trafodaethau hyn ar enciliad lluoedd Americanaidd o Affganistan, a gobeithiodd yr Americanwyr ddarbwyllo'r Taleban i negodi â'r llywodraeth y Weriniaeth Islamaidd yn uniongyrchol. Yng Ngorffennaf 2019 ymunodd llywodraeth Kabul â'r trafodaethau am y tro cyntaf, a chytunasant â chynrychiolwyr o'r Taleban i ragor o drafodaethau gyda'r nod o ailgymodi yn Affganistan. Er nad oedd y rhai hynny o'r Taleban wedi derbyn awdurdod gan eu harweinyddiaeth i ddod i gytundeb yn swyddogol, cafodd y cyfarfod ei ystyried yn gychwyn da i'r broses heddwch. O fewn deufis cafwyd cytundeb fras gan yr Unol Daleithiau a'r Taleban, ond gohiriwyd rhagor o gyfarfodydd rhwng y ddwy ochr yn sgil ymosodiad yn Kabul gan hunan-fomiwr o'r Taleban ar 5 Medi a laddodd milwr Americanaidd.<ref>{{eicon en}} "[https://archive.today/S1BhM The Latest: Officials: US envoy Khalilzad returns to Qatar]", [[Associated Press]]'' (5 Medi 2019). Archifwyd o'r [https://apnews.com/article/asia-pacific-zalmay-khalilzad-donald-trump-ap-top-news-qatar-5f9d783ed4334afbaa8c046c0f682d8a dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.today ar Medi 2021.</ref> Yn Chwefror 2020 cytunodd y Taleban i ddechrau cyd-drafod yn swyddogol â'r llywodraeth genedlaethol ac i atal [[al-Qaeda]] a'r [[Y Wladwriaeth Islamaidd|Wladwriaeth Islamaidd]] rhag cynllunio a chyflawni terfysgaeth yn Affganistan. Cytunodd yr Unol Daleithiau i encilio'u lluoedd yn raddol o Affganistan dros gyfnod o 14 mis, gan ddechrau ym Mawrth 2020. Arwyddwyd y cytundeb hwnnw yn [[Doha]], [[Qatar]].<ref>Jennifer Hansler, "[https://archive.today/mfS4i US and Taliban sign historic agreement]", [[CNN]] (29 Chwefror 2020). Archifwyd o'r [https://edition.cnn.com/2020/02/29/politics/us-taliban-deal-signing/index.html dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.</ref>
 
Cychwynnodd y trafodaethau rhwng y Taleban a llywodraeth Kabul ar 12 Medi 2020, ond erbyn Ebrill 2021, ni chafwyd fawr o gytuno rhwng y Taleban a'r llywodraeth. Serch hynny, datganodd [[Joe Biden]], [[Arlywydd yr Unol Daleithiau]], byddai holl luoedd ei wlad yn encilio o Affganistan erbyn 11 Medi y flwyddyn honno, ugain mlynedd yn union wedi'r [[ymosodiadau 11 Medi 2001|ymosodiadau]] a sbardunodd y goresgyniad.<ref>{{eicon en}} Terri Moon Cronk, "[https://archive.today/ZMNdD Biden Announces Full U.S. Troop Withdrawal From Afghanistan by Sept. 11]", [[Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau]] (14 Awst 2021). Archifwyd o'r [https://www.defense.gov/Explore/News/Article/Article/2573268/biden-announces-full-us-troop-withdrawal-from-afghanistan-by-sept-11/ dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.</ref> Cynyddodd ymdrechion y Taleban i gipio tir wrth i'r Americanwyr a lluoedd tramor eraill encilio, a lansiwyd yr ymgyrch ymosodol ganddynt ar 1 Mai, wrth i'r cyntaf o'r 2,500 o luoedd Americanaidd a oedd yn weddill yn Affganistan adael y wlad.