Cymdeithas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn ar ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
diffiniad gwleidyddol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[File:Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol -CymruFwyCyfartal.webm|bawd|Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yng Nghymru]]
[[Grŵp (cymdeithaseg)|Grŵp]] mawr o [[unigolyn|unigolion]] sydd yn rhannu'r un gofod cyhoeddus ac yn rhyngweithio mewn ffordd systematig yw '''cymdeithas'''. Yn fras, mae'n cynnwys pob casgliad o [[pobl|bobl]] sydd yn ymateb i'w gilydd ac yn ffurfio felly cyfundrefn ar sail cydberthynas, gan gynnwys cydweithio, [[cyfathrebu]], a [[rhaniad llafur]]; yn yr ystyr hon, gellir defnyddio'r term hefyd ar gymdeithasau [[anifail|anifeiliaid]] o'r un rywogaeth.<ref>Michael Allaby, "Society" yn ''A Dictionary of Ecology''.</ref> O ganlyniad i weithredoedd ac ymatebion yr unigolion â'i gilydd, byddai'r gymdeithas yn ffurfio rhyw fath o drefn yn seiliedig ar arferion, rheolau, a buddiannau cyffredin er mwyn iddynt cyd-fyw yn heddychlon. Y gymdeithas [[bod dynol|ddynol]] yw pwnc disgyblaeth [[cymdeithaseg]], sydd yn ymwneud ag [[ymddygiad cymdeithasol]], patrymau o berthnasau a chysylltiadau cymdeithasol, ac agweddau eraill o fywyd cymunedol a diwylliannol.
 
Yn ôl [[gwladwriaeth-ganoliaeth]], y meddylfryd traddodiadol ym maes [[gwyddor gwleidyddiaeth]], mae'r gwahaniaethau rhwng cymdeithasau dynol yn cyfateb i ffiniau'r [[cenedl-wladwriaeth]]au: cymdeithas Ffrengig, cymdeithas Almaenig, ac ati. Er bod ysgolheigion mewn meysydd eraill yn aml yn dilyn y patrwm hwn, nid diffiniad digonol mohoni am ei fod yn hepgor cymdeithasau cenhedloedd nad yw'n annibynnol a chymdeithasau ethnig a diwylliannol sydd yn mynd y tu hwnt i ffiniau, er enghraifft cymdeithas Gymreig, cymdeithas Gyrdaidd, a chymdeithas Québecois. Mae twf [[globaleiddio]] yn enwedig wedi dangos cyfyngiadau'r hen ddiffiniad gwleidyddol, ac mae rhai [[Marcsiaeth|Marcswyr]] wedi mabwysiadu'r term "ffurfiad cymdeithasol" i gyfeirio at gymdeithasau yn nhermau eu datblygiad gwleidyddol ac economaidd, fel y'i ceir gan amlaf y tu mewn i ffiniau penodol.<ref>Nicholas Abercrombie, Stephen Hill, a Bryan S. Turner, ''The Penguin Dictionary of Sociology'', 5ed argraffiad (Llundain: Penguin, 2006), t. 364.</ref>
 
== Gwahaniaethu oddi wrth gysyniadau eraill ==