Dirwest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 28:
Sefydlwyd y gangen Gymraeg gyntaf o'r achos dirwest radical gan y Parch [[Robert Everett]] yn Eglwys Gymraeg yr Annibynwyr yn [[Utica, Efrog Newydd|Utica]] Efrog Newydd ym 1830. Sefydlwyd y gangen gyntaf o'r achos dirwest cymedrol Gymraeg ym [[Manceinion]] ym 1832 a'r achos radical gyntaf yn [[Lerpwl]] ym 1833
 
Trwy lythyr gan Everett a gyhoeddwyd yn [[y Dysgedydd]] ym 1834 y cyflwynwyd dirwest llwyrymwrthodol i'r eglwysi Cymraeg yng Nghymru.<ref>Cofiant y diweddar Barch Robert Everett, David Davies (Dewi Emlyn), Utica, 1879 tud 24</ref> Cafodd yr achos dirwest ymysg y Cymru Cymraeg hwb fawr arall ym 1835 pan aeth Gweinidog dirwestol Cymreig o'r Unol Daleithiol, [[Benjamin William Chidlaw]], ar daith bregethu drwy Gymru, i ymarfer ei Gymraeg, gan bregethu am lwyrymwrthodiad mewn tua 80 o wahanol gapeli.<ref>Benjamin William Chidlaw, ''The Story of My Life'' Philidelphia 1890 tud 78 adalwyd 12 Hydref 2021</ref>
 
Y pregethwr amlwg Cymraeg brodorol gyntaf i gefnogi dirwest radical oedd y Parch [[Henry Rees]] a draddododd bregeth nodedig yn Sasiwn [[yr Wyddgrug]], 1834 o'r Methodistiaid Calfinaidd, o blaid llwyrymwrthodiad. Pan sefydlwyd Cymdeithas Hyrwyddo Dirwest Prydain ym 1835 roedd tua 45 mil o'r 120 mil o aelodau yn Gymry Cymraeg. <ref name="Carneddog">[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1356602/183#?xywh=-728%2C377%2C3795%2C2503 Yr Ymdrech Dirwest, Carneddog, Cymru. Cyf. 19, tud 176, 1900] adalwyd 12 Hydref 2021</ref>