dim crynodeb golygu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 38:
Dair wythnos yn ddiweddarach dawJeff yn ôl i Arllechwedd o’r diwedd gyda darn newydd ar gyfer y tractor. Daw’n amlwg ei fod yn briod gyda dau o blant, ond mae’n fflyrtio’n agored gyda Mared. Mae Mared yn cael breuddwyd braf am garu gyda Harri Llwyn-crwn/Jeff ond mae’r freuddwyd yn troi’n hunllef am Robin a Mam, ac yna wedi iddi ddeffro mae’n gweld ysbryd Dewyrth Ifan eto – y tro hwn mae i mewn yn ei gwely. Y noson ganlynol mae hi’n gweld yr ysbryd unwaith yn rhagor, y tro hwn yn y llofft stabl yn codi ofn ar Fo.
Yn y cyfamser penderfyna Robin ei fod am werthu’r gwartheg godro ac er mawr syndod iddo ef a Mared mae Mam yn cytuno iddo wneud hynny a phrynu bustych yn eu lle. Yn ystod y penodau hyn hefyd mae Robin yn sylwi bod rhyw weithgaredd peirianyddol yn mynd ymlaen wrth yr afon, yr ochr isaf i bentref Rhyd-y-gro. Un diwrnod, wrth hel y defaid o’r mynydd gyda’i fam, mae’r ddau’n sylwi bod peiriannau’n tyrchu’r tir ar ddwy lan yr afon, ar dir ffermydd Dôl-haidd a
Drannoeth, a hithau’n ganol Rhagfyr erbyn hyn, mae Robin yn mynd â’r gwartheg godro i’r farchnad yn Hirfryn i’w gwerthu a phrynu bustych yn eu lle. Wrth deithio trwy Ryd-y-gro caiff olwg agosach ar y datblygiadau ar ddwy lan yr afon. Mae arwydd mawr newydd yn dangos bod cwmni o’r enw ‘Lower Ford
Ar fore dydd Nadolig mae Robin mewn hwyliau drwg eto. Mae’r boen yn ei stumog sydd wedi bod yn ei boeni erstro wedi dychwelyd, ac yn y prynhawn, wrth fynd ar drywydd llwynog yn yr eira, mae’n mynd yn sâl wrth i’r dolur stumog fyrstio. Daw Mared o hyd iddo yn anymwybodol ac wedi cyfogi gwaed. Caiff ei ruthro i’r ysbyty am lawdriniaeth frys gan aros yno am tua deg diwrnod. Ar ei noson olaf yn yr ysbyty caiff Robin hunllef yn ymwneud â’r plentyn bach sydd wedi’i gladdu yn y berllan – ei fabi ef a Mared. Er ei fod yn well yn gorfforol, mae’r un hen feddyliau ac atgofion arswydus yn dal i’w boenydio felly.
Llinell 46:
Cawn wybod trwy ddyddiadur Mared fod Fo yn dal i ymddwyn yn rhyfedd ac mae Mared yn credu bod ysbryd Dewyrth Ifan yn dal i aflonyddu arno. Ond mae ganddi bethau eraill ar ei meddwl hefyd. Mae’n amlwg fod ei charwriaeth gyda Jeff yn parhau ac yn awr mae’n dechrau poeni ei bod yn feichiog.
Am y tair wythnos nesaf mae Robin, ar ôl ei lawdriniaeth, yn gorfod bodloni ar wneud gwaith ysgafn o gwmpas y fferm. Ceir wythnos o rew caled ac yna daw’r eira. Wrth fwydo’r defaid un diwrnod mae Robin yn sylwi bod
Yn y cyfamser mae Mared hefyd ynghanol ei gofidiau ei hun. Mae wedi syrffedu ar undonedd bywyd yn Arllechwedd heb sôn am y cecru parhaus yn ddiweddar rhwng Robin a Mam. Ond yn fwy na dim mae’n poeni am yr hyn sydd i ddod a hithau’n gwybod i sicrwydd erbyn hyn ei bod yn feichiog.Gan fod Jeff yn dweud nad ef yw’r tad ac yn honni ei fod wedi cael fasectomi, mae Mared, mewn dryswch, yn chwilio am esboniad arall ar ei beichiogrwydd.Gydag ysbryd Dewyrth Ifan yn dal i aflonyddu arni, daw’n fwy a mwy sicr mai ef, rywsut, sydd wedi gwneud iddi feichiogi ac mae’r syniad yn codi arswyd arni. Os mai Dewyrth Ifan yw’r tad, ofn mawr Mared yw y bydd hanes yn ei ailadrodd ei hun ac y bydd hi’n geni erthyl o blentyn – fel y gwnaeth Mam, ar ôl ei pherthynas hithau gyda Dewyrth Ifan, roi genedigaeth i Fo.
Llinell 62:
Pan mae Robin yn mynd yn ôl i’r tŷ am ei ginio mae Mared yn ei gwely, a Mam yn gwrthod dweud beth sy’n bod arni. Ar orchymyn Mam, mae Robin, dan brotest eto, yn mynd â bwyd i Fo, sy’n ymosod yn ffyrnig arno. Mae Robin yn mynd i lawr i’r pentref mewn tymer flin ac yn benderfynol o ddial ar y dyn sydd, yn ei olwg ef, yn gyfrifol am helynt Mared, sef Jeff. Aiff i dafarn Y Bladur i chwilio amdano ac er nad ywJeff yn y dafarn mae Robin yn aros yno i yfed gyda Harri a dau o’r trigolion lleol eraill. Testun eu sgwrs yw’r mewnfudwyr a chaiff Robin sioc o glywed bod Harri yn ystyried gwerthu Llwyn-crwn iGeorge Davison. Wedi cyrraedd adref, mae Robin yn dychryn o weld pa mor wan a gwelw yw Mared, ond mae Mam yn gwrthod galw doctor
Y noson honno mae Robin yn mynd allan ac yn rhoi
Drannoeth mae Mared, sy’n wan iawn erbyn hyn, yn rhoi gorchymyn i Robin losgi ei dyddiaduron i gyd. Mae Robin yn treulio gweddill y bore yn y sgubor sinc yn darllen y dyddiaduron. O’r diwedd mae Mam yn gofyn i Robin fynd i nôl doctor at Mared ac mae yntau ar fin mynd pan mae’r heddlu’n cyrraedd i’w holi am y tân yng
Does neb ar ôl yn Arllechwedd bellach ond Mam, sy’n synfyfyrio o flaen y tân ac yn siarad gyda Dewyrth Ifan, a Fo, sy’n dal i ddolefain yn y llofft stabl. Mae’r nofel yn dod i ben gyda Harri Llwyn-crwn
==Themâu==
|