Brwydr Mynydd Carn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }}
 
{{Brwydrau'r Normaniaid yng Nghymru}}
Brwydr bwysig a ymladdwyd yn y flwyddyn [[1081]]. Mae ei hunion leoliad yn ansicr, er bod gogledd [[Sir Benfro]] yn ymddangos yn dra thebygol, efallai yng nghyffiniau [[Carn Ingli]] yn [[y Preseli]].
 
==Hanes==
Wedi marw [[Gruffudd ap Llywelyn]] yn [[1063]] bu [[Gwynedd]] yn nwylo brenhinoedd eraill am ddeunaw mlynedd, sef [[Bleddyn ap Cynfyn]] o [[Powys|Bowys]] hyd [[1075]], a [[Trahaearn ap Caradog|Thrahaearn ap Caradog]] o [[Arwystli]] hyd [[1081]]. O [[1075]] ymlaen brwydrodd [[Gruffudd ap Cynan]] i geisio adennill ei deyrnas. Yn 1081 ffurfiodd gynghrair â [[Rhys ap Tewdwr]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] a llwyddodd i drechu Trahaearn a [[Caradog ap Gruffudd|Charadog ap Gruffudd]] rheolwr [[Gwynllŵg (cantref)|Gwynllŵg]]) ym Mrwydr Mynydd Carn.<ref>D. Simon Evans (gol.), ''Historia Gruffud vab Kenan'', gol. D. Simon Evans (Caerdydd, 1977).</ref> Trwy hyn, sefydlwyd y ddwy linach a fu'n teyrnasu drwy Wynedd a [[Deheubarth]].<ref>''Gwyddoniadur Cymru;'' (Gwasg Prifysgol Cymru;, 2008)</ref>
 
Yn ôl [[Brut y Tywysogion]] (fersiwn [[Peniarth]] 20),
:Blwyddyn wedy hyny y bu ymlad mynydd karn ac yno y llas trahayarn ap karadawc a charadawc a gruffudd a meilyr meibyon riwallawn... ac yn ol ynteu y doeth gruffudd wyr y yago ac ysgottyeid yn borth iddaw ac y llas gwrgeneu vab seissyll ygan veibyon rys seis.<ref>Thomas Jones (gol.), ''Brut y Tywysogion (Peniarth MS. 20)'', gol. Thomas Jones (Caerdydd, 1941).</ref>
 
Yn ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', dywedir am Fynydd Carn,
:Sef yw hynny mynydd y garnedd; canys yno y mae dirfawr garnedd o fein[i], o dan yr hon y claddwyd rhyssw[y]r yng nghynoesedd gynt.<ref>D. Simon Evans (gol.), ''Historia Gruffud vab Kenan'', gol. D. Simon Evans (Caerdydd, 1977). Orgraff ddiweddar.</ref>
 
==Gweler hefyd==