Caradog ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
 
Roedd '''Caradog ap Gruffudd''' (bu farw [[1081]]) yn dywysog [[Teyrnas Gwent|Gwent]] a fu'n ymdrechu am rai blynyddoedd i ychwanegu [[Deheubarth]] at ei deyrnas.
 
Llinell 5 ⟶ 6:
Roedd Caradog yn ŵyr i [[Rhydderch ab Iestyn]] oedd wedi llwyddo i gipio gorsedd Deheubarth am gyfnod cyn ei farwolaeth yn [[1033]]. Roedd tad Caradog, [[Gruffudd ap Rhydderch]] hefyd wedi bod yn frenin Deheubarth am gyfnod cyn cael ei yrru allan a'i ladd gan [[Gruffudd ap Llywelyn]], a ddaeth yn frenin y rhan fwyaf o Gymru.
 
Gwent a [[GwynllwgGwynllŵg (cantref)|Gwynllŵg]] oedd cadarnle'r teulu, ac ymddengys fod Caradog wedi llwyddo i ychwanegu [[Morgannwg]] atynt. Mae'n ymddangos yn y cofnodion hanesyddol am y tro cyntaf yn [[1065]]. Roedd [[Harold Godwinson]], wedi ei fuddugoliaeth dros Gruffudd ap Llywelyn, wedi dechrau adeiladu tŷ hela ym [[Porth Sgiwed|Mhorth Sgiwed]]. Ymosododd Caradog arno a'i ddinistrio, ac yna anrheithio'r ardal.
 
Aeth Caradog ati fel lladd nadroedd i geisio efelychu ei dad a'i daid trwy ychwanegu Deheubarth at ei deyrnas. Yn [[1072]] (neu [[1071]]) gorchfygodd frenin Deheubarth, [[Maredudd ab Owain]], mewn brwydr ger [[Afon Rhymni]] ([[Brwydr Afon Rhymni]]) a'i ladd. Yn [[1078]] enillodd fuddugoliaeth arall dros [[Rhys ab Owain]] oedd wedi dilyn Maredudd ar orsedd Deheubarth, a'i ladd yntau. Erbyn [[1081]] yr oedd wedi gorfodi brenin newydd Deheubarth, [[Rhys ap Tewdwr]] i geisio nodded yn eglwys gadeiriol [[Tyddewi]]. Newidiwyd y sefyllfa pan laniodd [[Gruffudd ap Cynan]] o [[Iwerddon]], i geisio cipio gorsedd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] oddi wrth [[Trahaearn ap Caradog]]. Mewn cyfarfod rhwng Rhys ap Tewdwr a Gruffudd ap Cynan yn eglwys gadeiriol Tyddewi, gwnaethant gynghrair gyda bendith yr esgob.
 
Ymatebodd Caradog trwy wneud cynghrair a brenin Gwynedd, Trahaearn ap Caradog. Cyfarfu'r ddwy blaid ym [[Brwydr Mynydd Carn|Mrwydr Mynydd Carn]], tua taith diwrnod o Dyddewi. Lladdwyd Caradog a Trahaearn yn y frwydr yma. Gadawodd Caradog fab, Owain ap Caradog, a fodlonodd ar deyrnasu ar diroedd [[GwynllwgGwynllŵg (cantref)|Gwynllŵg]] ac a sefydlodd linach arglwyddi [[Caerllion]].
 
==Cyfeiriadau==
*[[John Edward Lloyd]] (1911), ''A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co., 1911)
*''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
 
Llinell 20 ⟶ 21:
[[Categori:Cymry'r 11eg ganrif]]
[[Categori:Genedigaethau'r 11eg ganrif]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwent]]
[[Categori:Marwolaethau 1081]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwent]]