Ifor Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 5:
==Hanes==
Yn 1158 ymosododd ar [[Morgan ab Owain]] o [[
:Yn awr yr oedd William, Iarll Caerloyw, fab yr iarll Rhobert, a ddaliai, yn ôl deddf etifeddiaeth, yn ogystal â'r castell a enwyd [sef Caerdydd], holl dalaith Gwlad Forgan, wedi digwydd bod yn rhyfela yn erbyn un o'i wŷr a elwid Ifor Bach. Canys gŵr o gorffolaeth fach ydoedd, ond o ddewrder difesur : a chanddo yn ei feddiant, yn ôl arfer y Cymry, rai tiroedd mynyddig a choediog, yr oedd yr iarll... yn ymdrechu naill ai i'w dwyn oddi arno yn llwyr, neu ynteu i'w rhannu. Un noswaith, ynteu, er bod Castell Caerdydd yn ymddangos wedi ei amddiffyn yn gadarnaf posibl gan ei gylch muriau, a'i lu o wylwyr, er bod y ddinas yn orlawn o filwyr, chwe ugain ohonynt, a heblaw hynny lu o saethyddion, a hefyd warchodlu niferus iawn o amddiffynwyr... gan ddwyn ysgolion a dringo'r muriau yn ddirgel, dug yr Ifor uchod yr Iarll a'r Iarlles allan, ynghyda'u mab bychan, eu hunig blentyn, a'u harwain gydag ef i'r coedydd. Ac ni ryddhaodd hwynt nes iddo ennill yn ôl bopeth a ddygesid yn anghyflawn oddi arno, a pheth dros ben.
:''[[Hanes y Daith Trwy Gymru]]''<ref>Thomas Jones (cyf.), ''Gerallt Gymro'' (Caerdydd, 1938), tt. 62-3.</ref>
|