Gŵyl Mabsant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 11:
== Cofnod disgrifiadol o'r hen ŵyl ==
 
Yn ei lyfr ''Celtic Folklore: Welsh and Manx'' dywed yr Athro [[Syr [[John RhysRhŷs]] i un Mr William Jones o [[Llangollen|Langollen]] sôn am Ŵyl Fabsant [[Beddgelert]] fel hyn: ''Digwyddodd y gwyliau hyn yn union fel yr un rwy wedi ei weld yn 1869 yn [[Heidelberg]] pan roedd y trigolion lleol yn dathlu "kermess" neu "kirchmesse" sef un o'u seintiau. Gŵyl o ddawnsio ac yfed cwrw ydoedd. Yn aml, oherwydd od y gwyliau hyn mor boblogaidd roedd yn rhaid wrth ychwaneg o wlâu a gelwid y gwelyau hyn yn "gwely g'l'absant".'' <ref name="Hugh Evans 1931"/>
 
Dywed Marie Trevelyan: ''"Mal Santau" oedd un o'r enwau arni ac arferid eu cynnal ar ddyddiau pwysig megis [[Dydd Gŵyl Dewi]]. Roedd yno orchestion megis [[mabolgampau]], [[dawnsio]], [[canu]] a llawer mwy. Deuai chwaraewyr [[ffidil]] a [[telyn|thelyn]] yno o bob cyfeiriad. Cynhaliwyd rhai ohonynt yn neuadd y dref neu'r pentref, ond fel arfer yn y dafarn leol neu [[ysgubor]].'' <ref>Glimpses of Welsh Life and Character gan Marie Trevelyan, Llundain, 1893</ref>