Grace Gwyneddon Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cantores a chasglydd alawon gwerin
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed y gasglwraig alawon canu gwerin '''Grace Gwyneddon Davies''' (Grace Roberts) (26 Tachwedd 187817 Hydref 1944) yng nghymdogaeth Anfield, Lerpwl.<ref>{{Cite web|title=DAVIES, GRACE GWYNEDDON (1878 - 1944), singer and folk-song collector {{!}} Dictionary of Welsh Biography|url=https://biography.wales/article/s12-DAVI-GWY-1878|website=biography.wales|access-date=2021-11-18}}</ref> == Bywyd a gwaith == Yn dilyn hyfforddiant...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:53, 18 Tachwedd 2021

Ganed y gasglwraig alawon canu gwerin Grace Gwyneddon Davies (Grace Roberts) (26 Tachwedd 187817 Hydref 1944) yng nghymdogaeth Anfield, Lerpwl.[1]

Bywyd a gwaith

Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, Robert Gwyneddon Davies) ac unigolion a oedd yn awyddus i ddiogelu’r canu brodorol a esgeuluswyd yn y 19g. ac a oedd yn prysur ddiflannu o’r tir.

Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Yn 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân.

Hwyliodd y ddau hefyd i Iwerddon i ddarlithio ar faes caneuon gwerin yng Nghymru i gynulleidfa yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a phan ymwelodd y cwpl ag Unol Daleithiau America a Chanada flynyddoedd yn ddiweddarach, ystyrid hynny’n gam allweddol ymlaen yn hanes a datblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru am nad oedd neb erioed cyn hynny wedi mentro mor bell er budd cerddoriaeth werin y genedl. Sail i gyflwyniadau a darlithoedd cyhoeddus Robert a Grace Gwyneddon Davies oedd eu profiad uniongyrchol, o 1913 ymlaen, ym myd casglu a chofnodi alawon Cymreig.

Oherwydd eu cysylltiadau teuluol ag Ynys Môn troesant i gyfeiriad Dwyran i chwilio am ddeunydd cerddorol. I fferm Tyddyn-y-gwynt (Dwyran) ac at Owen Parry, un o denantiaid y fro, yr aeth Grace Gwyneddon Davies yn gyntaf a chael stôr o ganeuon swynol ganddo. Yn eu plith casglwyd deunydd y llofft stabl a chaneuon gweision fferm yr ynys. Pan ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o Alawon Gwerin Môn yn 1914 cafwyd ynddi drefniannau syml o saith alaw Gymreig ar gyfer llais a chyfeiliant piano ac yn eu plith, cofnodwyd caneuon fel ‘Cob Malltraeth’, ‘Y Gelynen’, ‘Cwyn Mam-y-’nghyfraith’ a ‘Titrwm, tatrwm’ . Erbyn 1924, roedd ail gasgliad Alawon Gwerin Môn wedi ymddangos o’r wasg a’r gyfrol hon hefyd yn gofnod o ganu Owen Parry ac eithrio un eitem, sef fersiwn o ‘Lisa Lân’ a gafwyd gan ei ferch, Margaret (Maggie) Jones, ar fferm Talybont, Dwyran.

Pan ymddangosodd rhai o drefniannau Grace Gwyneddon Davies ar restr testunau’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1918, ailsefydlwyd y cyswllt agos a fu rhyngddi a’r Brifwyl – cyswllt uniongyrchol a barhaodd am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Bu’n feirniad swyddogol yn adran y canu gwerin rhwng 1921 ac 1933 ac yn rhannu ei chyfrifoldebau â Mary Davies a Philip Thomas, yn ogystal â David de Lloyd a W. S. Gwynn Williams. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag ysgolheictod y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.[2]

Llyfryddiaeth

  • Grace Gwyneddon Davies, Alawon Gwerin Môn (Caernarfon, 1914)
  • Robert Gwyneddon Davies, ‘The Collecting of Anglesey Folk Songs’, Anglesey Antiquarian and Field Club: Transactions, Cyf. 1923 (Llangefni, 1923), 95
  • Grace Gwyneddon Davies, Ail Gasgliad o Alawon Gwerin Môn: A Second Collection of Folk Songs from Anglesey (Wrecsam, 1924)
  • Wyn Thomas, Meistres Graianfryn a cherddoriaeth frodorol yng Nghymru (Aberystwyth, 1999)

Cyfeiriadau

  1. "DAVIES, GRACE GWYNEDDON (1878 - 1944), singer and folk-song collector | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2021-11-18.
  2. "Davies, Grace Gwyneddon (1879-1944)". Porth Esboniadur, Prifysgol Bangor.